Henry Lloyd
Milwr o Gymru oedd Henry Humphrey Evans Lloyd (tua 1718 – 1783) sy'n nodedig am ei ysgrifeniadau ar faterion milwrol.
Henry Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1720 Wrecsam |
Bu farw | 19 Mehefin 1783 Den Haag |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, person milwrol, economegydd |
Ganwyd ar fferm Cwm Bychan ym mhlwyf Llanbedr, Sir Feirionnydd, yn fab i glerigwr. Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Nid oedd yn medru fforddio comisiwn yn y Fyddin Brydeinig, felly aeth i Ffrainc yn 1744 gan obeithio cael comisiwn ym myddin y wlad honno. Methodd, a daeth yn frawd lleyg yn urdd yr Iesuwyr a bu'n rhoi addysg mewn pynciau milwrol i swyddogion y Frigâd Wyddelig.[1]
Brwydrodd ar ochr y Ffrancod yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, a bu ym Mrwydr Fontenoy yn 1745. Cymerodd ran yng ngwrthryfel y Jacobitiaid yn 1745, yn gwasnaethu fel swyddog cudd i gadw mewn cyswllt â Chymry yr oedd iddynt gydymdeimlad ag achos y Stiwartiaid. Dywed iddo gael ei gymryd i'r ddalfa yn 1746. Cafodd ei anfon i Loegr gan y Ffrancod i baratoi adroddiad ar bosibilrwydd glanio ar arfordir deheuol Prydain. Bu'n gwasanaethu hefyd ym myddinoedd Prwsia, Awstria, a Rwsia, a chyrhaeddodd reng uwchfrigadydd.[1]
Bu farw yn yr Hâg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 S. H. F. Johnston (1953), "LLOYD, HENRY (c. 1720 - 1783), milwr ac ysgrifennwr ar faterion milwrol" yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 1 Medi 2019.
Darllen pellach
golygu- Patrick J. Speelman, Henry Lloyd and the Military Enlightenment of Eighteenth-Century Europe, Contributions in Military Studies, no. 221 (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2002).