Highfields, Llandaf

is-ardal o Landaf, Caerdydd

Mae Highfields yn is-ardal o Landaf yng Nghaerdydd. Er nad oes statws swyddogol gweinyddol i'r ardal, mae ei bodolaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig yn gyffredin i bobl gorllewin Caerdydd. Yn ystadegol ac ar gyfer etholiadau Cyngor Dinas Caerdydd ystyrir Highfields yn ran o ward Llandaf.[1]

Highfields
Mathardal boblog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Ffordd y Tyllgoed (A4119), meingefn Highfields, yn edrych tua'r gollewin am Danescourt

Lleoliad

golygu

Gellid lleoli Highfields rhwng cylchdro a dechrau Ffordd Llantrisant ar y rhiw tua'r gogledd o bentref Llandaf cyn belled â chylchdro nesa lle mae maestref Danescourt yn dechrau. Er mai bychan iawn yw'r ardal, roedd, neu bu, yn cynnwys sawl sefydliad o bwys yn hanes Cymru.

  • Ysgol Bryntaf - Ymysg y sefydliadau yma oedd cartref llawn gyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, sef ysgol gynradd cyfrwng cyntaf Caerdydd, (a elwir yn Ysgol Pencae, bellach). Roedd ei chartref gyntaf fel rhan o Ysgol Ninian Park yn Grangetown oddeutu 3km i'r de o HIghfields. Sefydlwyd yr ysgol yn 1949 wedi ymgyrchu dros ddegawd gan selogion megis Gwyn M. Daniel a phan symudwyd yr ysgol i'w chartref newydd, fe'i hailenwyd yn Ysgol Bryntaf oherwydd topoleg amlwg y lleoliad newydd yn edrych dros Afon Taf.[2] Arddelwyd yr enw honno hyd yn oed pan symudwyd yr ysgol i faestref Mynachdy yn y ddinas rhai blynyddoedd yn hwyrach yn sgil tŵf yn nifer y disgyblion.
  • Canolfan BBC Cymru - Highfields oedd cartref adeilad newydd pwrpasol BBC Cymru. Prynwyd y safle 10 acer yn 1952 ond bu oedi oherwydd trafferthion cynllunio ac ni agorwyd yr adeilad yn swyddogol nes 1 Mawrth 1967. Dyma brif man darlledu BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y gwasanaeth newyddion a rhaglenni teledu y Gorfforaeth. Fe'i gwerthwyd a dymchwelwyd yr adeilad erbyn Ionawr 2022 gan wneud lle ar gyfer 364 o dai newydd o wahanol feintiau.[3][4] Symudwyd pencadlys y BBC yng Nghymru i'r Sgwâr Ganolog yng nghannol dinas Caerdydd, gyferbyn â Gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
  • Tŷ Oldfield - dyma oedd safle hen Goleg Gwyddor Tŷ, ar 6.95 erw ond a ddaeth, maes o law yn 'Tŷ Oldfield' sef rhan weindyddol o ganolfan y BBC. Dymchwelwyd gydag adeiladau stiwdio y BBC gyferbyn iddo ar Ffordd Llantrisant.[5]

Personau Dylanwadol

golygu

Efallai oherwydd ei chyfleustra i ysgol gynradd Gymraeg a sefydliadau megis y BBC ac Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, chyn yr 1980au, tir glas cyn adeiladu haelaeth ar hyd Ffordd Llantrisant yn Danescourt, bu Highfields yn gartref i sawl person adnabyddus ym mywyd diwylliannol Cymru gan gynnwys:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Area Information for Highfields, Cardiff, Wales, CF5 2QA". Streetcheck.
  2. Jones, Michael (Mehefin 2018). "Cronoleg Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers 1940". Y Dinesydd.
  3. "Going, going, gone: end of an era for BBC Cardiff site". Nation.Cymru. 2022-01-30.
  4. "What the huge housing development at the former BBC Wales site in Llandaff will look like". Wales Online. 2021-04-16.
  5. "Going, going, gone: end of an era for BBC Cardiff site". Nation.Cymru. 2022-01-30.