Ysgol Pencae
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal Highfields, Llandaf, Caerdydd ydy Ysgol Pencae. Agorodd yr ysgol yn ei hadeilad presennol ym 1991. Enillodd Farc Safon Sgiliau Allweddol yn 2000.[1] Y prifathro presennol yw Mr Richard Thomas.[2]
Ysgol Pencae | |
---|---|
Arwyddair | Ymdrech a Lwydda |
Sefydlwyd | 1991 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Richard Carbis |
Cadeirydd | Mrs Liz Jones |
Lleoliad | Highfields, Heol Gillian, Llandaf, Caerdydd, Cymru, CF5 2QA |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Disgyblion | 197 (2003)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Gwefan | ysgolpencae.cardiff.sch.uk |
Roedd 197 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2003, daeth tua 35% o'r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[1]
Mae'r ysgol wedi ei lleoli yn ardal Highfields, Llandaf ar safle hen ysgol, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, sef ysgol Gymraeg gyntaf erioed Caerdydd a sefydlwyd wedi ymdrech hir gan seflogion fel Gwyn M. Daniel.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Adroddiad arolygiad Ysgol Gymraeg Pencae 10–13 Tachwedd 2003. Estyn (15 Ionawr 2004).
- ↑ School Details: Ysgol Pencae. Cyngor Caerdydd.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol Pencae Archifwyd 2010-10-29 yn y Peiriant Wayback