Detholiad o Faledi Huw Jones, golywyd Alaw Mai Edwards ac A. Cynfael Lake, 2010Ni ddylid cymysgu Huw Jones â'r bardd ac emynydd o'r un cyfnod, Hugh Jones, Maesglasau.
Ychydig iawn a wyddys amdano. Cyfeiria Lewis Morris ato fel "bardd crwydrol" a enillai ei fywoliaeth "yn ôl dull yr hynafiaid", h.y. trwy ganu mewn ffeiriau, gan ychwanegu iddo gael ei eni tua dechrau'r 18g. Bu farw rywbryd ar ôl 1779, efallai yn 1780.[2]
Er nad ydym yn gwybod fawr dim amdano, roedd Huw yn fardd hynod poblogaidd a ganodd gannoedd o gerddi. Roedd y rhain yn cynnwys baledi traddodiadol a charolau plygain.[1] Cyhoeddwyd swm sylweddol o'i waith yn ystod ei oes, rhwng 1729 a 1779. Pamffledi a llyfrau bychain o faledi oedd llawer o'r rhain. Ond cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd mewn llyfr mwy sylweddol y ogystal, sef Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759); cyfrol sy'n cynnwys gwaith Goronwy Owen, Ieuan Fardd, Rhys Jones o'r Blaenau ac eraill yn y rhan gyntaf a detholiad o waith Huw Jones ac eraill yn yr ail ran.[2]
Priodolir tair anterliwt i Huw Jones yn ogystal, sef 'Hanes y Capten Ffactor', '(Anterliwt) Ar Ddull Ymddiddan rhwng Protestant a Neilltuwr,' a gyhoeddwyd yn 1783, a 'Histori'r Geinogwerth Synnwyr' am hanes gŵr priod godinebus.[2]
A. Cynfael Lake (gol.), Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Cyhoeddiadau Barddas, 2000). Astudiaeth gyda thestun golygiedig tair anterliwt, sef 'Hanes y Capten Ffactor', 'Histori'r Geiniogwerth Synnwyr' a 'Protestant a Neilltuwr'. ISBN 9781900437370
Baledi Huw Jones - https://baledihuwjones.swansea.ac.uk/, wedi'i ddatblygu a'i gynnal gan Dîm y Dyniaethau Digidol ar ran yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe