Hwyaden gribog

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Hwyaden Mandarin)
Hwyaden gribog
Aix galericulata

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Aix[*]
Rhywogaeth: Aix galericulata
Enw deuenwol
Aix galericulata



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Hwyaden gribog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: hwyaid cribog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aix galericulata; yr enw Saesneg arno yw Mandarin duck. Mae'n perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae) sydd yn urdd y Anseriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. galericulata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Caiff ei fagu er mwyn ei hela. Mae'r ceiliog yn darawiadol dros ben, gyda phig coch, cochaidd ar yr wyneb a phorffor ar ei fron. Nid yw'r iar mor darawiadol, gyda phlu brown neu lwyd.

O dde-ddwyrain Asia, yn enwedig Tsieina a Japan y mae'r rhywogaeth yma yn dod. Mae'n hoffi pyllau dŵr cymharol fach mewn fforestydd. Gan fod llawer o'r fforestydd hyn wedi eu dinistrio, mae wedi mynd yn aderyn prin. Credir fod tua mil o barau yr un yn nwyrain Rwsia a Tsieina, ond mae tipyn mwy yn Japan - tua 5,000 o barau.

Oherwydd fod y ceiliog mor hardd, mae'n hwyaden boblogaidd iawn mewn casgliadau o hwyaid dof. O bryd i'w gilydd llwyddodd rhai i ddianc, ac yn ystod yr ugeinfed ganrif mae'r rhain wedi rhoi bodolaeth i boblogaeth o tua 1,000 o barau ym Mhrydain Fawr, sy'n gyfran eithaf sylweddol o boblogaeth y rhywogaeth yma trwy'r byd. Yng Nghymru mae poblogaeth fychan yn magu ar Afon Glaslyn ger Porthmadog er enghraifft.

Maent yn dodwy eu wyau mewn tyllau mewn coed sy'n tyfu'n agos i'r lan. Maent yn bwyta planhigion yn bennaf.

Iâr

Mae'r hwyaden gribog yn perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Hwyaden Ddanheddog Mergus merganser
 
Hwyaden Frongoch Mergus serrator
 
Hwyaden gribog Brasil Mergus octosetaceus
 
Hwyaden gribog Tsieina Mergus squamatus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
 
Aix galericulata

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Safonwyd yr enw Hwyaden gribog gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.