Mantell paun

(Ailgyfeiriad o Iâr fach lygadog)
Inachis io
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Llwyth: Nymphalini
Genws: Inachis
Dalman, 1816
Rhywogaeth: I. io
Enw deuenwol
Inachis io
(Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae, 1758)
Cyfystyron

Aglais io
Nymphalis io
Papilio io

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell paun, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll peunod; yr enw Saesneg yw Peacock (neu European peacock), a'r enw gwyddonol yw Inachis io.[1][2] Peunog (hefyd Y Peunog) yw enw arall arni. Fe'i canfyddir yn Ewrop a rhannau o Asia ac mor bell a Japan.

Dyma'r unig aelod o'r genws Inachis. Daw'r gair o fytholeg Roeg a'i ystyr yw Io, ferch Inachus. Mae'n glöyn llwyddiannus iawn a'r niferoedd yn cynyddu.

50 to 55 mm ydy ei fain (o adain i adain). Ceir dau isrywogaeth: I. io caucasica (Jachontov, 1912) sydd i'w weld yn Aserbaijan a I. io geisha (Stichel, 1908) a ganfyddir yn Japan a dwyrain Rwsia.

Cynefin golygu

Treulia'r gaeaf mewn hen adeiladau neu mewn coed. Pwrpas y "llygaid" ar ei adain yw i ddychryn unrhyw ysbeiliwr, a chafwyd sawl ymchwil gwyddonol i effaith a phwrpas y llygaid hyn.[3] Mae'n hoff o dir coediog, caeau agored, parciau a gerddi: hyd at 2,500 m uwchlaw lefel y môr.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell paun yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Stevens, Martin (2005). "The role of eyespots as anti-predator mechanisms, principally demonstrated in the Lepidoptera". Biological Reviews 80 (4): 573–588. doi:10.1017/S1464793105006810. PMID 16221330. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?aid=344947. Adalwyd 11 Tachwedd 2010.