Owain ab Urien

brenin Rheged
(Ailgyfeiriad o Owain fab Urien)

Un o arweinwyr Brythoniaid yr Hen Ogledd a ddaeth yn ffigwr pwysig yn rhamantau'r Oesoedd Canol oedd Owain ab Urien neu Owain fab Urien (yn fyw yn y 6g). Roedd yn fab i Urien Rheged, brenin teyrnas Rheged. Fel Owein neu Yvain, ymledodd ei hanes chwedlonol ar draws Ewrop fel un o farchogion y brenin Arthur.

Owain ab Urien
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Bu farwc. 595 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRheged, Yr Hen Ogledd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, brenin Edit this on Wikidata
TadUrien Rheged Edit this on Wikidata
PriodTeneu Edit this on Wikidata
PlantCyndeyrn, Elffin Edit this on Wikidata

Llinach golygu

Yn ôl yr achau, roedd yn frawd i Pasgen ac mae traddodiad llên gwerin yn ei wneud yn efell i Forfudd. Roedd yn un o'r Coelwys, sef disgynyddion y brenin Coel Hen, teulu amlycaf hanes yr Hen Ogledd.

Hanes golygu

Cysylltir Owain ab Urien â'r bardd hanesyddol Taliesin. Yn Llyfr Taliesin cedwir testunau dwy gerdd a ganodd Taliesin iddo. Yn 'Gwaith Argoed Llwyfain' ymddengys fod Owain yn arwain byddin ei dad Urien (a oedd erbyn hynny'n rhy hen i ymladd efallai) yn erbyn byddin o Eingl-Sacsoniaid a arweinir gan Fflamddwyn. Mae'r ail gerdd yn farwnad i Owain, yr hynaf yn y Gymraeg. Mewn pennill enwog dywedir fod Owain wedi lladd Fflamddwyn. Roedd mor hawdd iddo a syrthio i gysgu ac rwan mae nifer o'r gelyn yn "cysgu" â'u llygaid yn agored i olau'r dydd:

Pan laddodd Owain Fflamddwyn
Nid oedd fwy nog yd cysgaid;
Cysgid Lloegr, llydan nifer,
 lleufer yn eu llygaid.[1]

Traddodiad golygu

 
Owain yn codi ei ystondardd gyda'i frain yn y cefndir yn ymladd marchogion Arthur (argraffiad yn "Mabinogion" Charlotte Guest (1877).

Crybwyllir Owain sawl gwaith yn y cylch o gerddi cynnar a elwir yn 'Canu Llywarch Hen'. Yno fe'i gelwir yn 'Owain Rheged' gan bwysleisio ei ran yn amddiffyn ac arwain y deyrnas honno. Yn ôl buchedd y sant Cyndeyrn, a gyfansoddwyd yn y 12g, mae Owain yn dad i'r sant, ond amheuir hynny gan y mwyafrif o ysgolheigion.

Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd Owain, fel sawl cymeriad hanesyddol arall o'r Hen Ogledd (e.e. Taliesin fel Taliesin Ben Beirdd), wedi troi'n ffigwr chwedlonol. Mae'n arwr y rhamant Iarlles y Ffynnon, un o'r Tair Rhamant Cymraeg, ac yn ymddangos fel Yvain yn y gerdd Le Chevalier au Lion ('Y Marchog a'r Llew') gan y Ffrancwr Chrétien de Troyes. Mae Owain ab Urien yn gymeriad amlwg yn y chwedl ddychanol Breuddwyd Rhonabwy yn ogystal. Yn y gweithiau hyn i gyd cysylltir Owain â chylch y brenin Arthur (yntau wedi troi'n ffigwr chwedlonol). Ceir nifer o gyfeiriadau at Owain yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn ogystal, weithiau fel 'Marchog y Ffynnon' neu 'Marchog y Cawg'.

Yn ôl un traddodiad, roedd ganddo chwaer efaill o'r enw Morfudd. Mae Morfudd ac Owain yn ymddangos mewn hen chwedl werin Cymraeg a gysylltir a Llanferres, yn awr yn Sir Ddinbych. Gerllaw Llanferres roedd rhyd a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Gellir dosbarthu'r chwedl am Ryd-y-gyfarthfa (Llanferres) yn y dosbarth o chwedlau Celtaidd am 'olchwraig y rhyd' a duwies sofraniaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, cerdd X 'Marwnad Owain', mewn orgraff ddiweddar.

Llyfryddiaeth golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; argraffiad newydd 1991)
  • R. L. Thomson (gol.), Owein (Dulyn, 1986)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: