Cyngor yr Iaith Gymraeg
asiantaeth weithredol
Sefydlwyd Cyngor yr Iaith Gymraeg ym 1973.[1] Roedd y Cyngor yn gyfrifol am ddosbarthu arian i sefydliadau Cymraeg eu hiaith neu oedd yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, megis Mudiad Ysgolion Meithrin.[2] Ei theitl Saesneg oedd Welsh Language Council.
Cyngor yr Iaith Gymraeg | |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
---|---|
Cadeirydd | Ben Jones, Llundain |
Sefydlwyd | Tachwedd 1973 |
Math | Asiantaeth weithredol |
Lleoliad | Cymru |
Cyllideb | grant blynyddol gan Lywodraeth San Steffan |
Sefydlwyd y Cyngor yn ystod cyfnod Peter Thomas yr aelod seneddol Ceidwadol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1974, bu wedyn dan oruchwyliaeth Plaid Lafur a David Morris, AS a bu ei thrafodion neu ddiffyg gweithredu yn destun trafodaeth ar y pryd.[2]
Gellir ystyried bodolaeth y Cyngor fel cynsail ar gyfer sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993.
Aelodau'r Cyngor
golyguAelodau'r Cyngor a apwyntiwyd yn 1973 o oedd:[3]
- Cadeirydd - Ben Jones, ysgrifennydd Cymdeithas y Cymmrodorion[4]
- Syr Goronwy Daniel — Prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a chyn Is-Ysgrifennydd Gwladol Parhaol y Swyddfa Gymreig
- Arglwydd Davies Llandinam — Peiriannydd Sifil, Cadeirydd Cyngor Cymru Gwasanaethau Ieuenctid a Gwirforddol (Council for Wales of Voluntary Youth Services)
- W. Emrys Evans, Dinas Powys — Cyfarwyddwr De Cymru o Fanc y Midland (HSBC bellach)
- Trevor Fishlock, Pontyclun — awdur a newyddiadurwr; gohebydd Materion Cymreig i bapur newydd The Times
- Yr Athro Idris LI. Foster, Carneddi, Bangor — Athro Astudiaethau Celtaidd, Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen
- Mr. R.E. Griffith, Aberystwyth — cyn-Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru
- Mr. Carwyn James — Darlithydd yn y Gymraeg, Coleg y Drindod Caerfyrddin
- Mr. E. Aneurin Jones — Prifathro Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan
- Emyr Currie-Jones, Caerdydd - Cyfreithiwr, Cadeirydd Cyngor Sir De Morgannwg; aelod o Banel Cynghori Cyfieithu (Welsh Language Advisory Translation Panel)
- Helen E. Latham, Casnewydd - Cadeirydd cyngor Cymru i'r Henoed (National Council for the Elderly in Wales); Cadeirydd ardal De Cymru i'r Abbeyfield Society
- Cyngh. W. C. Philpin, Broad Haven, Sir Benfro — ffarmwr, aelod Cyngor Sir Benfro; Cadeirydd Pwyllgor Addysg Sir Benfro; Cadeirydd Panel Amgylchedd a Diwylliant Cyngor Cymru
- Mr. J. E. Hugh Rees, Abertawe - Syrfeiwr Siartiedig, cyn Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe; aelod o Bwyllgor Bowen ar Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog
- Ann Saer, Caerdydd - Darlithydd mewn Cymdeithaseg, Coleg Addysg Llandaf (Economeg Cartref)
Dolenni
golygu- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cerrig Milltir: Cyfweliad gyda Dr John Davies
- Aelodau'r Cyngor[dolen farw] yn cwrdd â Chyngor Sir Gwynedd newydd yn 1974
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://tafodteifi.blogspot.com/2016/02/cymdeithas-yr-iaith-gymraeg-cerrig.html
- ↑ 2.0 2.1 https://hansard.parliament.uk/commons/1976-07-20/debates/62df9cbf-5d34-4bfc-aca0-394cf259769f/WelshLanguageCouncil
- ↑ https://hansard.parliament.uk/Commons/1973-11-15/debates/419b1f7a-68d2-453a-b31d-1306603772d2/WelshLanguageCouncil
- ↑ https://www.cymmrodorion.org/cy/y-gymdeithas/ein-hanes/