Iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws 2019-20

Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronafeirws (COVID-19), yn gallu codi ofn ac effeithio ar iechyd meddwl.

Mae'r canllawiau ar iechyd meddwl a chefnogaeth seicogymdeithasol y Cenhedloedd Unedig yn argymell mai egwyddorion craidd cymorth iechyd meddwl yn ystod argyfwng yw; peidiwch â gwneud unrhyw niwed, hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb, defnyddio dulliau cyfranogol, adeiladu ar y presennol adnoddau a galluoedd, mabwysiadu ymyriadau aml-haenog a gweithio gyda systemau cymorth integredig.[1]

Achosion faterion iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 golygu

Gall pandemig COVID-19 achosi straen, gorbryder a phryder ymhlith unigolion. Mae achosion cyffredin straen seicolegol yn ystod pandemig yn cynnwys, ofn mynd yn sâl a marw, osgoi gofal iechyd oherwydd ofn cael eich heintio tra mewn gofal, ofn colli gwaith a bywoliaeth, ofn cael eich gwahardd yn gymdeithasol, ofn cael eich rhoi mewn cwarantîn, teimlad o ddiffyg pŵer wrth amddiffyn eich hun ac anwyliaid, ofn cael eich gwahanu oddi wrth anwyliaidau a rhoddwyr gofal, gwrthod gofalu am unigolion bregus oherwydd ofn haint, teimladau o ddiymadferthedd, diflastod, unigrwydd ac iselder oherwydd eu bod yn ynysig ac ofn ail-fyw profiadau pandemig blaenorol.[1]

Atal a rheoli cyflyrau iechyd meddwl golygu

Mae'r Mental Health Foundation wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol ar gyfer atal materion iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.[2][3]

Ceisiwch aros mewn cysylltiad golygu

Yn ystod adegau o straen, rydym yn gweithio’n well mewn cwmni a chyda cefnogaeth. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu neu cysylltwch â llinell gymorth i gael cymorth emosiynol. Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ond ceisiwch beidio â gorgynhyrfu pethau. Os ydych chi’n rhannu erthyglau ac ati, defnyddiwch ffynonellau dibynadwy, a chofiwch efallai bod eich ffrindiau’n poeni hefyd.

Cadw trefn feunyddiol golygu

Mae’n syniad da i gadw at eich trefn feunyddiol. Efallai eich bod am ganolbwyntio ar y pethau allwch chi eu gwneud os ydych chi’n teimlo y gallwch:

Siaradwch â’ch plant golygu

Mae cynnwys ein teulu a’n plant yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd da yn hanfodol. Mae angen i ni wrando a gofyn i’n plant beth y maen nhw wedi ei glywed am y firws a’u cefnogi, heb eu dychryn. Mae angen i ni leihau’r effaith negyddol y mae’n ei gael ar ein plant ac esbonio’r ffeithiau iddynt. Trafodwch y newyddion â nhw ond ceisiwch ag osgoi eu gorlwytho â gwybodaeth am y firws. Byddwch mor onest ag y gallwch. Ceisiwch drafod â nhw mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Mae rhywfaint o ofid yn normal golygu

Mae’n normal i deimlo’n fregus ac wedi’ch gorlwytho wrth ddarllen newyddion am y firws, yn enwedig os ydych chi wedi profi trawma neu broblem iechyd meddwl yn y gorffennol, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol hirdymor sy’n eich gwneud yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws. Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn ac atgoffa’n gilydd i ofalu am ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn fuddiol yn yr hirdymor, fel ysmygu ac yfed, ac osgoi cynyddu ein defnydd o’r rhain. Ceisiwch dawelu meddwl y bobl rydych yn gwybod sy’n bryderus a chadw mewn cysylltiad â phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Beidio â gwneud rhagdybiaethau golygu

Peidiwch â dod i gasgliadau am bwy sy’n gyfrifol am ledaenu’r clefyd. Gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un, waeth eu rhyw neu hil.

Reoli sut rydych yn dilyn y newyddion golygu

Mae llawer o sôn am y firws ar y newyddion ar hyn o bryd. Os ydych chi’n teimlo bod y newyddion yn peri straen i chi, mae’n bwysig i gael cydbwysedd. Does dim rhaid i chi osgoi’r newyddion yn gyfangwbl, mae’n bwysig i fod yn wybodus, ond gallwch gyfyngu ar faint o’r newyddion yr ydych chi’n ei weld.

Ymdopi â hunan-ynysu a bod mewn cwarantîn golygu

Os oes posibilrwydd bod gennych Coronafeirws, mae’n bosib y gofynnir i chi aros gartref (hunan-ynysu). I bobl sy’n hunan-ynysu neu mewn cwarantîn, efallai y bydd hyn yn anodd iawn. Gall fod o gymorth i geisio ei ystyried fel cyfnod gwahanol o amser yn eich bywyd, ac nid un sy’n wael o reidrwydd, hyd yn oed os na wnaethoch ei ddewis. Bydd hyn yn golygu rhythm bywyd gwahanol, cyfle i gadw mewn cysylltiad ag eraill mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer. Cysylltwch ag eraill yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu ar y ffôn, gan eu bod o hyd yn ffyrdd da o fod yn agos i’r bobl sy’n bwysig i chi. Crëwch drefn feunyddiol sy’n blaenoriaethu hunan-ofal. Efallai byddwch am ddarllen mwy neu wylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, neu ddysgu am bwnc newydd ar y we. Ceisiwch ymlacio a gweld hyn fel profiad newydd, anarferol, a all fod o fudd i chi. Sicrhewch fod eich anghenion iechyd ehangach yn cael eu gofalu amdanynt, fel sicrhau bod gennych ddigon o’ch meddyginiaethau presgripsiwn.

Gweler hefyd golygu

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol am y firws yma:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Inter-Agency Standing Committee Guidelines on Mental Health and Psychosocial support" (PDF). MH Innovation. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-03-31. Cyrchwyd 28 March 2020.
  2. "Looking after your mental health during the Coronavirus outbreak". Mental Health Foundation (yn Saesneg). 2020-03-18. Cyrchwyd 2020-04-06.
  3. "Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws • meddwl.org". meddwl.org. 2020-03-08. Cyrchwyd 2020-04-06.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall