Gweld Sêr (pantomeim)

(Ailgyfeiriad o Gweld Sêr (panto))

Pantomeim Cymraeg gan Gwmni Theatr Cymru yw Gweld Sêr a lwyfannwyd ym 1972. Dyma'r ail banto i'r cwmni lwyfannu ar ôl llwyddiant Mawredd Mawr, flwyddyn ynghynt.

Gweld Sêr
Dyddiad cynharaf1972
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathPantomeim Gymraeg

Disgrifiad byr

golygu

"...ar ôl llwyddiant ysgubol yr un cyntaf [Mawredd Mawr] yr un prif gymeriadau oedd yn hwn hefyd," yn ôl yr actor John Pierce Jones, "yn cael eu chwarae gan Dyfan Roberts, Dewi Pws a Wynford Ellis Owen. Roedd Beryl Hall a'i chi, Ben Hall, Iona Banks a Huw Tudor hefyd yn serennu yn y cynhyrchiad. Rhan fach iawn fel gwas ufudd y Brenin Da oedd gen i, ond cefais hefyd gyfle i fod yn un o'r criw cefn llwyfan ar y daith, oedd yn brofiad gwerthfawr iawn mewn mwy nag un ystyr."[1]

Cymeriadau

golygu
 
Golygfa o'r Panto Gweld Sêr - Grey Evans a Iona Banks (1972)
  • Y Brenin da
  • Gwas y Brenin da
  • Fairy Nyff
  • Tywysoges
  • Siencyn
  • Ianto
  • Gwrach
  • Brenhines
  • Y Dewin Gwyrdd [2]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y panto gan Gwmni Theatr Cymru dros y Gaeaf 1972 a dechrau'r Gwanwyn 1973.

John Pierce Jones sy'n cofio mwy am y cynhyrchiad :

"Roedd y ci, Ben Hall, yn cydganu a'i feistres mewn un olygfa, ac am ryw reswm sydd y tu hwnt i mi, mynnodd Beryl fod Wynford, Dyfan a Dewi Pws i fod ar y llwyfan yn ystod ei chân efo'r ci. Camgymeriad dybryd. Roedd Wynff wedi ei wisgo fel tylwythen deg (Fairy Nyff) ac yn ystod y gân tynnai amryw o fân bethau o'i fag llaw, a gweu efo symudiadau doniol. Wrth gwrs, roedd hyn yn tynnu sylw'r gynulleidfa, a doedd Pws yntau ddim yn ddieuog o'r hyn y gellid ei alw'n 'ypstejio'? Roedd si ar led fod Beryl, ar ôl taenu ei chlogyn o gwmpas Ben fel nad oedd ond ei ben yn y golwg yn ystod y ddeuawd, yn gwasgu ei geilliau er mwyn iddo gyrraedd y nodau uchaf. Does gen i ddim prawf o gwbwl o hyn."[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.
  2. "Mae e tu ôl i chi!". BBC Cymru Fyw. 2015-11-18. Cyrchwyd 2024-09-15.