Is Tryweryn

cwmwd yng Ngwynedd

Un o ddau gwmwd Cantref Penllyn ym Meirionnydd (de Gwynedd) oedd Is Tryweryn.

Is Tryweryn
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPenllyn Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.916°N 3.583°W Edit this on Wikidata
Map

Gorweddai Is Tryweryn yn rhan ddwyreiniol cantref Penllyn gyda'r Afon Tryweryn yn nodi rhan o'r ffin rhyngddo a'r ail gwmwd, Uwch Tryweryn, gan roi iddo ei enw. Ffiniai ag Is Aled a Dinmael i'r gogledd, Edeirnion i'r dwyrain a Mochnant Uwch Rhaeadr i'r de.

Fel gweddill Penllyn, roedd Is Tryweryn yn rhan o deyrnas Powys hyd at ddechrau'r 13g, pan gipiwyd Penllyn gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. Ar ôl goresgyniad 1283 daeth yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd.

Roedd y cwmwd yn cynnwys tri phlwyf:

Ffynhonnell golygu

Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail argraffiad, 1975)

Gweler hefyd golygu