Agor y brif ddewislen

Cwmwd canoloesol yn y Berfeddwlad, gogledd-ddwyrain Cymru, oedd Is Aled. Gyda chymydau Uwch Aled a Ceinmeirch, roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog.

Dynodid y ffin rhwng Uwch Aled ac Is Aled gan Afon Aled. Ymestynnai cwmwd Is Aled o gyffiniau Llanelwy (ond heb gynnwys y dref) yn y gogledd, yn Nyffryn Clwyd, hyd at gyffiniau'r Migneint yn y de. I'r dwyrain gorweddai cwmwd Ceinmeirch, rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog. Roedd yn gwmwd hir felly, ar siap hirgul gywasgedig yn y canol. Yn ogystal â'r dau gwmwd yng nghantref Rhufoniog, ffiniai Is Aled â chymydau Is Dulas (cantref Rhos), Rhuddlan (cantref Tegeingl) a Dogfeiling (cantref Dyffryn Clwyd) i'r gogledd, a gydag Uwch Dulas (Rhos), Nanconwy (Arllechwedd), Ardudwy, Penllyn a Dinmael i'e de.

Cwmwd mynyddig anghysbell oedd Is Aled, ac eithrio'r tir isel yn y gogledd, ar lan Afon Aled ac yn Nyffryn Clwyd. Roedd yn cynnwys Ysbyty Ifan yn y de, ger Llyn Conwy, a fu'n hosbis ("ysbyty") enwog i deithwyr, a berthynnai i urdd Marchogion yr Ysbyty.

Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, fel gweddill Rhos a Rhufoniog, daeth yn rhan o arglwyddiaeth Dinbych. Yn nes ymlaen bu'n rhan o'r Sir Ddinbych a grëwyd yn 1536. Erbyn heddiw mae rhannau deheuol a gorllewinol y diriogaeth yn gorwedd yn sir Conwy a'r gweddill yn Sir Ddinbych.

Gweler hefydGolygu