Isocrates
Rhethregwr ac athro Athenaidd oedd Isocrates (436 CC – 338 CC) sydd yn nodedig fel un o'r ysgrifenwyr areithiau gwychaf yn llenyddiaeth Hen Roeg, er nad oedd yn llefarydd cyhoeddus ei hun.
Isocrates | |
---|---|
Ganwyd | 436 CC Athen yr henfyd |
Bu farw | Awst 338 CC Athen yr henfyd |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | areithydd, llenor |
Priod | Plathane |
Ganed ef yn Athen, yn ystod "oes euraid" y ddinas-wladwriaeth honno dan arweiniad Pericles. Mab ydoedd i Theodorus, gwneuthurwr offerynnau cerdd. Gan fod ei dad yn ŵr cyfoethog, cafodd Isocrates yr addysg orau yn ei ddinas enedigol. Yr oedd rhyw wylder ac ofnusrwydd yn perthyn iddo yn naturiol ag yr ymdrechai yn ofer cael ymwared ohono, ac felly fe roddai heibio pob gobaith am ymenwogi fel areithydd cyhoeddus. Ond er nad oedd yn siaradwr ei hun, nid oedd neb yn deall rheolau areithyddiaeth yn well nag ef. Yn Chios y dechreuodd ei yrfa fel athro rhethreg, ond ni lwyddodd yn neilltuol yno. Blodeuai wedi iddo ddychwelyd i Athen, a chyrhaeddai nifer ei fyfyrwyr i gant, gan gynnwys y fath ddynion â Theopompus, Ephorus, Xenophon, Isæus, a Demosthenes.
Pan yn uchder ei fri, dywedodd Isocrates y buasai efe yn rhwydd yn talu unrhyw bris am lais da, a hyder ynddo ei hun, i allu siarad yn gyhoeddus. Yn 94 oed, ysgrifennai: "Yr oeddwn mor lwyr amddifad o ddau gymhwyster a fernir o'r gwerth mwyaf i areithiwr yn Athen—sef, llais a dullwedd—fel y credwyf nad oedd neb yn fy amser mor ddiffygiol â mi yn y pethau hyn." Gwyddys na ddarfu iddo geisio siarad yn gyhoeddus ond unwaith. Traddodid yr areithiau a gyfansoddai efe gan eraill, neu anfonid hwynt i bersonau neilltuol i'w darllen, a daeth Isocrates i feddiant o eiddo mawr drwy hyn. Fe roddodd Nicocles, Brenin Cyprus, iddo ugain talent am un araith. Darfu i'w waith yn gwrthod cymryd rhan yng ngwasanaeth cyhoeddus ei wlad greu llawer o elynion iddo. Cyhuddiad arall a roddwyd yn ei erbyn oedd ei fod yn rhy gyfeillgar â brenhinoedd, ac y mae ar gael eto lythyrau o'i eiddo at Philip ac Alecsander o Facedon. O ran gwleidyddiaeth Athen, yr oedd ei safbwyntiau yn rhy eang i ymgymysgu ag unrhyw blaid benodol. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r athronydd Platon.
Ei ddymuniad mawr oedd gweld y Groegiaid (ac o dan yr enw cynhwysai bawb a siaradent yr iaith Roeg) wedi ymuno ynghyd mewn cynghrair yn erbyn eu gelyn cyffredin, sef Persia. Er ei fod yn ddadleuydd dros wladweinyddiaeth heddychlon, cefnogai Isocrates y rhyfel â Phersia, gan ei fod yn ystyried mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol i ddod â therfyn i'r mân-ryfeloedd a gerid ymlaen gan y Groegiaid yn erbyn ei gilydd, yr hyn a barai i'r wlad syrthio yn ysglyfaeth i unrhyw gymydog pwerus.
Yn ei Panegyricus, sylwir Isocrates ar fawredd a gogoniant ei dref enedigol, ei gorchestion mewn rhyfel, ei dioddefiadau yn achos Groeg oll, a'r gwaith ysblennydd a wnaeth mewn cysylltiad â llenyddiaeth a'r celfyddydau. Gydag huodledd cyffelyb fe ymhelaethir ar y gwasanaeth a wnaeth i'w threfedigaethau yn mhob man, ac ar ddatblygiad ei hadnoddau masnachol. Er ei fod yn gyfaill i heddwch ar hyd ei oes, eto ni fynnai ei bwrcasu ar draul aberthu anrhydedd. Yr oedd wedi cyrraedd 98 oed pan yr ymladdwyd brwydr fawr Charonea yn 338 CC. Darfu i fuddugoliaeth y Macedoniaid ddinistrio rhyddid Groeg o hynny allan, ac nid oedd Isocrates yn foddlon i fyw ar ôl hynny. Gwrthododd dderbyn ymborth, a bu farw o newyn ymhen rhai dyddiau. Nodweddir ei areithiau gan ofal a phrydferthwch arddull neilltuol, ond nid ydynt i'w cymharu ag areithiau Demosthenes mewn tanbeidrwydd, nac a'r eiddo Lysias mewn symledd a phrydferthwch naturiol.