Cyn-lobïwr o'r Unol Daleithiau sydd bellach yn ymgyrchydd yn erbyn lobïo yw Jack Allan Abramoff (/ˈbrəmɒf/; ganwyd 28 Chwefror 1959) a fu hefyd yn gweithio fel dyn busnes, cynhyrchydd ffilmiau, ac awdur.[1][2] Ef oedd y ffigwr canolog mewn ymchwiliad i lygredigaeth wleidyddol ar raddfa eang, ac o ganlyniad cafodd Abramoff a 21 o unigolion eraill eu canfod yn euog, gan gynnwys swyddogion y Tŷ Gwyn J. Steven Griles a David Safavian, y Cynrychiolydd Bob Ney, a naw o lobiwyr eraill a chynorthwywyr cyngresol.

Jack Abramoff
Ganwyd28 Chwefror 1959, 28 Chwefror 1958 Edit this on Wikidata
Atlantic City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cyfreithiwr, lobïwr, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://abramoff.com/ Edit this on Wikidata

Abramoff oedd cadeirydd cenedlaethol Pwyllgor Colegol y Blaid Weriniaethol o 1981 hyd 1985, un o'r aelodau a sefydlodd yr International Freedom Foundation (a honnir ei fod yn derbyn cyllid o lywodraeth De Affrica yn oes apartheid),[3] a gwasanaethodd yn weithredwr ar fwrdd y felin drafod geidwadol National Center for Public Policy Research. O 1994 hyd 2001 roedd yn un o brif lobiwyr Preston Gates & Ellis, a Greenberg Traurig hyd fis Fawrth 2004.

Plediodd Abramoff yn euog yn Ionawr 2006 i bum cyhuddiad o ffeloniaeth yn ymwneud â sgandal ynghylch lobïo dros gasinos Americanwyr Brodorol, gan gynnwys SunCruz Casinos.[4][5] Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn carchar ffederal am dwyll post, cynllwynio i lwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus, ac efadu trethi. Cafodd ei garcharu am 43 mis cyn iddo gael ei ryddhau yn Rhagfyr 2010.[6] Wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar, ysgrifennodd hunangofiant Capitol Punishment: The Hard Truth About Washington Corruption From America's Most Notorious Lobbyist (2011).

Bu'r sgandalau yn destun dwy ffilm yn y flwyddyn 2010: y ffilm ddogfen Casino Jack and the United States of Money,[7] a'r ffilm Casino Jack a serenodd Kevin Spacey yn rhan Abramoff.[8][9]

Sgandal yr Indiaid

golygu
 
3 Ionawr, 2006: Jack Abramoff yn gadael Federal Court yn Washington, DC

Mae sgandal lobïo Indiaidd Jack Abramoff yn sgandal gwleidyddol Americanaidd sy'n gysylltiedig â gwaith perfformiwyd gan y lobïwyr gwleidyddol Jack Abramoff, Ralph E. Reed, Jr., Grover Norquist a Michael Scanlon dros fuddiannau gamblo casino Indiaidd am amcangyfrif o $85 miliwn mewn taliadau. Gorfiliodd Abramoff a Scanlon eu cleientiaid, a rhannon nhw'r elw o filiynau o ddoleri yn gyfrinachol.

Yng nghwrs y cynllun, mae'r lobïwyr wedi'u cyhuddo o roi anrhegion a rhoddion ymgyrch yn anghyfreithlon i ddeddfwyr mewn gyfnewid am bleidleisiau neu gefnogaeth deddfwriaeth. Mae'r cynrychiolydd Bob Ney (R-OH) a gweinydd i Tom DeLay (R-TX) wedi'u ymhlygu'n syth; mae gan wleidyddion eraill, y rhan fwyaf ohonynt yn ddeddfwyr Gweriniaethol, sydd â chysylltiadau â materion Indiaidd clymau amrywiol. Mae ôl-effeithiau'r ymchwiliad wedi achosi DeLay i ymddiswyddo o'i swydd fel arweinydd Tŷ'r Cynrychiolwyr.

Mae Scanlon ac Abramoff wedi pledio'n euog i amrywiaeth o gyhuddiadau cysylltiedig â'r gynllun.

Ar Ddydd Gwener, 25 Tachwedd, 2005, adroddodd The Wall Street Journal ehangiad ymchwiliad pedair aelod o'r Cyngres: yn ogystal â Ney a DeLay, mae'r adroddiad yn cynnwys y Cyn. John Doolittle (G., Calif.) a'r Llyw. Conrad Burns (G., Mont.) [10] Ar 2 Rhagfyr, 2005, adroddodd The New York Times fod erlynyddion ffederal yn ystyried trefniant plediad bargeniol a fydd yn rhoi tipyn o ystyriaeth i Abramoff os rhoddai dystiolaeth bydd yn ymhlygu bod aelodau'r Cyngres a'u staffwyr hŷn wedi derbyn cynigion swydd mewn gyfnewid am ffafrau deddfwriaethol.

Ar 3 Ionawr, 2006, plediodd Abramoff yn euog i dri gyhuddiad ffeloniaeth — cynllwyn, twyll ac osgoi treth — ynglŷn â chyhuddiadau yn dod yn benodol o'i weithgareddau lobïo yn Washington ar ran llwythi Americanawyr Brodorol. Hefyd, mae angen i Abramoff a ddiffynyddion eraill wneud adferiad o o leiaf $25 miliwn â amddifadwyd trwy dwyll o gleientiaid, yn enwedig y lwythi Americanwyr Brodorol. Ymhellach, mae Abramoff $1.7 miliwn mewn dyled i'r IRS fel ganlyniad o'i ble euog i'r cyhuddiad o osgoi treth.[11]. Mae ffeil y llys ar gael fel PDF.[12]

 
Tystiodd Abramoff o flaen Senedd Pwyllgor Materion Indiaidd ar 29 Medi, 2004. Gwrthododd ateb cwestiynau'r Seneddwyr gan defnyddio'r hawl â ganiatair yn y Pumed Gwelliant.

Mae'r cytundeb yn honni y gwnaeth Abramoff llwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus. Mae un o'r achosion o lwgrwobrwyo â ddisgrifwyd yn fanwl am berson â adnabwyd fel "Representative #1," â adroddir gan The Washington Post i fod yn y Gynrychiolydd Bob Ney (R-OH). Cadarnhaodd llefarydd Ney taw Ney oedd y Cynrychiolydd â nodir, ond gwadodd unrhyw ddylanwad amhriodol.[13] Mae'r cytundeb hefyd yn manylu ar ymarfer Abramoff o gyflogi staffwyr Cyngresol blaenorol. Defnyddiodd Abramoff ddylanwad y bobl yma i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol, yn groes i waharddiad ffederal un-mlynedd ar y fath lobïo.[14][15]

Ar ôl ple Abramoff o euogrwydd, symudwyd ymchwiliadau i Ionawr cynnar 2006 er mwyn canolbwyntio ar gwmni lobïo Alexander Strategy Group [16], sefydlwyd gan "cyfaill agos o DeLay a'i phennaeth staff blaenorol."[17] Cyhoeddoedd y cwmni lobïo y byddai'n cau erbyn diwedd yr un mis oherwydd "cyhoeddusrwydd angheuol"; roedd wedi cynrychioli cwmnïau mawr megis Microsoft a PhRMA. Ar 1 Mai, 2006, cytunodd y Gwasanaeth Cudd i ryddhau logiau o bob cyfarfod â Jack Abramoff ar neu cyn 10 Mai.

Cyfeiriadau

golygu
  1. James, Frank (18 Tachwedd 2011). "Jack Abramoff: From Corrupt Lobbyist To Washington Reformer". NPR. Cyrchwyd 9 Mawrth 2012.
  2. "Red Scorpion". Cyrchwyd 31 March 2017.
  3. Dele Olojede; Timothy M. Phelps (16 Gorffennaf 1995). "Front for Apartheid". Newsday.
  4. Abramoff Pleads Guilty, Will Help in Corruption Probe, Bloomberg News Service, 3 Ionawr 2006.
  5. "Abramoff Pleads Guilty, Will Help in Corruption Probe" Archifwyd 2006-01-27 yn y Peiriant Wayback, CBS News, 4 Ionawr 2006.
  6. "Inmate Locator". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-27. Cyrchwyd 31 March 2017.
  7. Stephen Holden, "The Eye in a Hurricane of Corruption", New York Times, 7 Mai 2010.
  8. "Casino Jack". 7 Ionawr 2011. Cyrchwyd 31 March 2017 – drwy IMDb.
  9. "Bagman Trailer: The Other Jack Abramoff Movie", Vulture at New York, 15 Mehefin 2010.
  10. (Saesneg)"Four congressmembers role in Abramoff lobbying scandal probed", The Raw Story.
  11. (Saesneg)"Lobbyist Abramoff Pleads Guilty to Fraud Charges", NPR, 03 Ion, 2006.
  12. (Saesneg) Ple euog Abramoff – ffeil y llys  PDF
  13. (Saesneg)"GOP Leaders Seek Distance From Abramoff", The Washington Post, 04 Ion, 2006.
  14. (Saesneg) Defnydd dylanwad staffwyr cyngresol blaenorol i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol  PDF
  15. (Saesneg)"Lobbyist case threatens Congress", BBC News, 04 Ion, 2006.
  16. (Saesneg) Alexander Strategy Group Archifwyd 2006-01-12 yn y Peiriant Wayback
  17. (Saesneg)"U.S. lobbying inquiry shifts to a second firm", International Herald Tribune, 08 Ion, 2006.

Dolenni allanol

golygu
Newyddion
Barnau