Jan Moir
Newyddiadurwr,[1] colofnydd[2] ac adolygwraig bwytai [3] o'r Deyrnas Unedig ydy Jan Moir (ganed Awst 1956). Yn 2005, enillodd Wobr Lynda Lee-Potter o Gymdeithas Llenorion Benywaidd am newyddiadurwr benywaidd y flwyddyn.[4]
Jan Moir | |
---|---|
Ganwyd | Awst 1958 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | colofnydd |
Cyflogwr |
Ar hyn o bryd, ysgrifenna i'r Daily Mail a chyn hynny bu'n gweithio i The Daily Telegraph [5] a The Guardian.[6] Tan ddiwedd 2008, ysgrifennau "Are You Ready To Order?", blog o adolygiadau tai bwyta ganddi hi a'i phartner, "S".
Mae'n byw yn Knightsbridge, Llundain.[7]
Erthygl Stephen Gately
golyguAr 16 Hydref 2009 ysgrifennodd Moir erthygl yn y Daily Mail a awgrymodd y gallai marwolaeth y canwr Stephen Gately o'r grŵp pop Boyzone fod yn gysylltiedig â'i rywioldeb. Arweiniodd hyn at feirniadaeth chwyrn ar wefan y Daily Mail [8] a phrotestiodd cannoedd o bobl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol megis Twitter a Facebook. Gwnaed dros 1,000 o gwynion i Gomisiwn Cwynion y Wasg yn ystod y diwrnod y cafodd yr erthygl ei chyhoeddi.[9][10] Aeth gwefan Comisiwn Cwynion y Wasg oddi ar-lein, a chredir fod hyn oherwydd y nifer o bobl a ymwelodd a'r wefan er mwyn cwyno am yr erthygl.[11] Ar yr 19 Hydref, dywedodd Comisiwn Cwynion y Wasg y byddent yn ymchwilio i weld a oedd yr erthygl wedi torri rheolau Canllawiau Golygyddion [12] yn sgîl 21,000 o gwynion.[13] Gan amlaf, mae'r Comisiwn yn ymateb i gwynion a wneir gan bobl a effeithiwyd yn uniongyrchol gan erthygl. Honnodd Moir mai "orchestrated campaign" oedd yn gyfrifol am yr ymateb chwyrn yn erbyn ei herthygl. Ar wefan "Comment is Free" The Guardian, disgrifiodd y colofnydd Charlie Brooker erthygl Moir fel "gay bashing".[14]
Ymhlith y bobl ar Twitter a gefnogodd yr ymgyrch yn erbyn y Daily Mail a Jan Moir oedd Derren Brown a Stephen Fry. Crewyd tudalen Facebook hefyd yn annog pobl i gwyno i'r cwmnïau a oedd yn hysbysebu wrth ymyl yr erthygl. Ystyriwyd y mater yn ddigon difrifol i Marks & Spencer ofyn i'r papur newydd i gael gwared ar hysbyseb a oedd yn agos i'r erthygl,[15] gan wneud datganiad i'r wasg a ddywedai: "Marks & Spencer does not tolerate any form of discrimination". Ymbellhaodd Nestlé eu hunain wrth yr erthygl hefyd, gan ddweud fod geiriau Moir yn anghyson â gwerthoedd y cwmni o "mutual respect and tolerance, regardless of culture, religion or nationality". Symudodd y Daily Mail bob hysbyseb ar y dudalen ar eu gwefan a newidasant pennawd yr erthygl o "Why there was nothing "natural" about Stephen Gately's death" i "A strange, lonely and troubling death".[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Journalisted entry Archifwyd 2009-10-19 yn y Peiriant Wayback, Adalwyd 16-10-2009
- ↑ A strange, lonely and troubling death... Moir, Jan. Daily Mail 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16
- ↑ Gwefan Jan Moir Are You Ready To Order?, Adalwyd 16-10-2009
- ↑ Telegraph's Moir wins journalism award Claire Cozens. The Guardian. 2005-10-26. Adalwyd ar 2009-10-16
- ↑ Daily Telegraph Archifwyd 2009-10-04 yn y Peiriant Wayback, Adlawyd ar 16-10-2009
- ↑ The Guardian 16-10-2009
- ↑ rpts.gov.uk[dolen farw], 16-10-2009
- ↑ Roy Greenslade Mail columnist provokes homophobia storm over Stephen Gately's death 2009-10-16. Adlawyd ar 2009-10-16. The Guardian
- ↑ Daily Mail columnist Jan Moir blames 'orchestrated campaign' for gay backlash 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. PinkNews.co.uk
- ↑ Twitter and Facebook outrage over Jan Moir's Stephen Gately article, 16-10-2009
- ↑ Jan Moir’s Gately slur provokes online outrage| Archifwyd 2009-10-19 yn y Peiriant Wayback 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. STV
- ↑ Ponsford, Dominic PCC to investigate Jan Moir's Stephen Gately article Archifwyd 2009-10-28 yn y Peiriant Wayback Press Gazette 19 Hydref 2009, adalwyd 19 Hydref 2009
- ↑ Record 21,000 complaints to watchdog about Daily Mail article on Stephen Gately[dolen farw] Adalwyd 19 Hydref 2009
- ↑ Why there was nothing 'human' about Jan Moir's column on the death of Stephen Gately Brooker, Charlie. 2009-10-16. The Guardian. Adalwyd ar 2009-10-16
- ↑ "Marks & Spencer pulls ads from Daily Mail article on Stephen Gately's death" Chris Tryhorn, Mercedes Bunz a Mark Sweney 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. The Guardian
- ↑ Green, Jessica Updated: Twitter storm over 'vile' Daily Mail column on gay singer Stephen Gately. Pinknews.co.uk Adalwyd 16-10-2009