Roedd Jane Emily Tomlinson, CBE (née Goward) (21 Chwefror 19643 Medi 2007) yn athletwraig amatur Seisnig a ddaeth yn enwog yn Mhrydain am godi £1.5 miliwn ar gyfer elusen gan gyflawni cyfres o sialensau athletaidd, er ei bod yn dioddef o gancr terfynol.[1]

Jane Tomlinson
Ganwyd21 Chwefror 1964 Edit this on Wikidata
Wakefield Edit this on Wikidata
Bu farw3 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sheffield Hallam University Edit this on Wikidata
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Wedi cael ei 'gwella' o afiechyd cancr y fron yn 1991, yn 26 oed, dychwelodd yr afiechyd drwy gydol ei chorff yn 2000.[2] Yn ystod y chwe mlynedd canlynol, cyflawnodd Tomlinson Farathon Llundain dair gwaith, a Triathlon Llundain ddwywaith, Marathon Efrog Newydd unwaith a seiclodd ar draws Ewrop, Yr Unol Daleithiau ac Affrica.[2] Bu farw Jane Tomlinson yn 2007, yn 43 oed.

Dyddiau cynnar golygu

Ganed yn Wakefield yn Swydd Efrog yn 1964, y chweched o ddeg o blant i ddeintydd.[2][3] Pan yn 11 oed, symudodd y teulu i Awstralia, ond dychwelont ar ôl tair blynedd.[2] Yn 1990, gwnaeth Tomlinson gais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Leeds. Ond, canfodd lwmp ar ei bron a bu gorfod iidi gael lumpectomy, cofresrodd yn lle yn Ysbyty Gyffredionol Leeds ac astudiodd i ddod yn radiolegwraig.[2] Erbyn hyn, roedd wedi priodi Mike Tomlinson a chael dwy ferch, Suzanne a Rebecca.[4] Yn ddiweddarach cafont fab, Steven.[2][4] Wedi cymhwyso yn 1993, aeth Tomlinson i astudio ar lefel uwchraddedig i ddod yn Radiolwraig Gwyddor clefyd plant.[2] Tair mlynedd wedi cael y driniaeth lumpectomy, dychwelodd y gancr a bu'n rhaid iddi gael mastectomy, a dau rownd o driniaeth Cemotherapeg a thriniaeth Radioleg.[2] Yn 2000, cafodd wybod fod y gancr wedi lledaenu i'w hesgyrn a'i hysgyfaint. Amcangyfrwyd mai ond 12 mis oedd ganddi ar ôl i fyw.[2][3]

Codi arian ar gyfer elusennau golygu

Wedi darganfod fod ei chancr yn derfynol yn 2000, penderfynodd Jane Tomlinson ddechrau ar gyfres o farathonau a sialensau athletaidd eraill er mwyn codi arian ar gyfer elusennau. Creodd gyfundrefn ymarfer a chymerodd rhan yn ei marathon cyntaf ym Mai 2001, ras 5 km Race for Life.[2][2] Yn Rhagfyr 2001, cymerodd ran yn y Leeds Abbey Dash.[3] Yn Ebrill 2002, rhedodd Farathon Llundain am y tro cyntaf ac yn ddiweddarach, Marathon Efrog Newydd.[2] Cyflwynwyd Jane Tomlinson gyda Jubilee baton y frenhines yn Leeds yng Ngorffennaf yr un flwyddyn, cyflawnodd Triathlon Llundain mis Awst ac y Great North Run ym mis Hydref.[3]

Cyflawnodd y Ironman Triathlon, yr unig person a oedd yn dioddef o gancr terfynol i wneud hynnu erioed.[5] Cyflawnodd ddwy hanner Ironman yn ogystal.[5] Derbynodd Wobr Helen Rollason yn Personoliaeth Chwaraewyr y Flwyddyn y BBC yn 2002 a gwnaethwyd hi'n MBE yn 2003.[5][6] Rhwng Mawrth ac Ebrill 2003 hefyd, seiclodd o John o' Groats i Land's End gyda'i brawd, Luke Goward, pellter o 1060 o filltiroedd.[2][5] Y flwyddyn canlynol defnyddiont tandem i seiclo 2000 milltir ar drawst Ewrop, o Rufain i Leeds, a dringont Mont Ventoux yn ystod y daith.[2][3]

Derbynnodd Jane ar un adeg, 2500 llythyr yr wythnos gan y cyhoedd oherwydd ei phroffil cyhoeddus.[2] Er bu i sawl bapur newydd tabloid honi nad oedd ei chancr yn derfynol. Honiad a gafodd ei brofi'n anwir.[2] Derbyniodd sawl galwad ffôn amharchol hefyd.[7] Yn 2005, enillodd wobr Pride of Britain.[3]

Blynyddoedd olaf golygu

Yn Gorffennaf ac Awst 2006, gwariodd Tomlinson naw wythnos yn seiclo 4200 milltir ar draws yr Unol Dalieithau, gan godi £250,000.[3][5] Hon oedd ei sialens athletaidd olaf.[8]

Ar ôl iddi gyhoeddi The Luxury of Time yn 2005, rhyddhaodd ail bennod ei chofianau You Can't Take It With You yn 2006.[2] Yn Ionawr 2007, lawnsiodd Mike a Jane Tomlinson Jane Tomlinson's Run For All, ras redeg elusennol 10 km a ddigwyddodd yn Mehefin y flwyddyn honno.[9] Ar ôl iddi gael pedwar cwrs o driniaeth cemotherapi, datblygodd clefyd y galon cronig.[5] Codwyd hi i lefel anrhydedd CBE yn Mehefin 2007, bu Jane Tomlinson farw yn Llety San Gemma, Leeds, llai na tair mis yn ddiweddarach ar 3 Medi.[4][5]

Ffynonellau golygu

Dolenni Allanol golygu