Gwarchodlu yn Ymerodraeth yr Otomaniaid oedd y Janisariaid (ffurf unigol: Janisari neu Janisariad).[1]

Darluniad o griw o Janisariaid, ynghyd â Siambrlen y Swltan Murad IV, yn ystod Brwydr Fienna (1683).

Sefydlwyd y rhan hon o'r fyddin Otomanaidd yn ystod teyrnasiad Amurath, neu Murad I, yr hwn, ar ôl goresgyn Albania, Bosnia, Serbia, a Bwlgaria, yn ôl awgrymiad ei brif weinidog, a hawliodd i'w wasanaeth ei hyn y bumed ran o'r ieuenctid Cristnogol a gymerwyd yn garcharorion ganddo. Fe'u haddysgwyd yn y grefydd Islamaidd, ac i ddwyn arfau. Wedi eu disgyblu'n briodol, ffurfiwyd hwy yn gorff gwahanol o ŵyr traed, a dosranwyd hwy yn gatrodau, a chysegrwyd a bendithiwyd hwynt gan urdd y derfisiaid Swffïaidd Bektash, Rhoddwyd yr enw yeñiçeri, neu "filwyr newydd", arnynt.

Daethant yn fuan i beri dychryn i elynion yr Otomaniaid. Wedi eu llwyr ddiddyfnu oddi wrth eu cyfeillion a'u cartrefi, ymroddasant yn frwdfrydig i wasanaethu'r Swltan, a thrwy disgyblaeth fanwl, tâl rheolaidd, a gwasanaeth parhaus a chyson, ffurfient arferion a'u gwnaent yn llawer rhagorach milwyr na'r cyrff afreolaidd a ffurfient fyddinoedd tywysogion Ewrop. Ar ôl marwolaeth Swleiman y Godidog, a dadfeiliad cyffredinol, ond graddol, ysbryd rhyfelgar y Tyrciaid, pryd nad oedd y Swltaniaid mwyach yn cymryd maes y gad yn bersonol, fel yr arferent gynt, nid oedd y Janisariaid yn cael eu gwneud i fyny fel o'r blaen o gaethion ieuainc yn unig, ond goddefid i'r Otomaniaid a ddygasid i fyny yn y ffydd Islamaidd, ymrestru i'w rhengoedd, y rhai nid oeddynt yn feddiannol ar sêl a brwdfrydedd proselytiaid. Ac heblaw hynny, yr oedd cysylltiadau perthnasol a chyfeillgar agos rhyngddynt a chorff y bobl o'u hamgylch, ac nid oeddynt yn gwbl ymroddgar i gyflawni holl ewyllys y Swltan.

Yn 1680, diddymodd Mohammed IV y gyfraith drwy yr hon y gorfodid deiliaid Cristnogol yr ymerodraeth, i gyflwyno rhai o'u plant i'r Swltan, er cael eu dwyn i fyny a'u haddysgu yn y ffydd Islamaidd, a'u rhestru yn y gwarchodlu. Yn ôl cyfreithiau gwreiddiol y corff, nis gallai'r Janisariaid briodi, ond yn raddol osgowyd y gwaharddiad hwn, ac yn y diwedd esgeuluswyd ef yn hollol. Rhestrid enwau eu plant ar lechres eu gwahanol gatrodau, ac yr oedd eu perthnasau a'u cyfeillion, dynion oedd yn fynych yn gwbl anghymwys at unrhyw wasanaeth milwrol, yn cael yr un anrhydeddm yr hyn a estynai iddynt amddiffyniad a manteision neilltuol oddi wrth ormes ac anghyfiawnder eu llywodraethwyr. Yn y modd hwn gollungwyd i mewn i blith y Janisariaid liaws o gymeriadau isel, a chrwydriaid, ac yr oedd hyd yn oed rhai o'r Iddewon, ac o ddeiliaid Cristnogol y Swltan, yn prynu'r rhagorfraint am arian. Erbyn hyn yr oeddynt yn esgeuluso o gwbl ym mron ymarferiadau milwrol, ac nid oeddynt un amser yn cyfarfod fel cyfangorff, ond ar ddiwrnod tâl, pryd yr elent dan ryw gymaint o ddisgyblaeth filwrol.

Er hynny, yr oedd y llywodraeth yn eu harswydo oherwydd eu lluosogrwydd, canys yr oeddynt yn wasgaredig dros yr holl ymerodraeth, ac yr oedd eu dylanwad yn fawr ar y lliaws yn y brifddinas. Gallent, pan y mynnent, gyfodi gwrthryfel, hawlio marwolaeth y prif weinidog, a gorfodi diorseddiad swltan amhoblogaidd. Diorseddasant Selim yn y ganrif bresennol, ac yn nechreuad teyrnasiad y Swltan Mahmoud, torasant allan mewn gwrthryfel ofnadwy, yr hwn a barodd am dri diwrnod, yn yr hwn y collodd y gweinidog Mustafa Bairactar ei fywyd. Yn ystod y tridiau hyn, yr oedd heolydd Caergystennin wedi eu lliwio gan waed. Prif achos y terfysgoedd yn y ddwy enghraifft hyn oedd eu casineb at y milwyr newydd, a ddisgyblid yn ôl y drefn Ewropeaidd.

O'r diwedd, penderfynodd Mahmoud ddarostwng y Janisariaid gan y gwelai nad oedd ond eu llwyr ddiddymiad a'i galluogai i wellhau ei ymerodraeth, a chyflawni yn llwyddiannus y mesurau diwygiadol a fwriadai. Wedi bod am flynyddoedd yn aeddfedu ei gynlluniau, yn ôl cyngor ei weinidog, Halet Effendi, ac wedi sicrhau cefnogaeth llawer o brif swyddogion gwladol a milwrol y wladwriaeth, efe a orchmynodd ar fod i bob catrawd Janisaraidd ofalu am 150 o ŵyr i gael eu haddysgu yn ôl trefn y byddinoedd Ewropeaidd. Arweiniodd hyn, fel y rhagdybiai, i wrthryfel. Ymgynullodd y Janisariaid yn llu mawr at yr Ermaidan, galwasant ar enw Hadji Bektash, eu sant gwarcheidiol, a dechreuasant y cythrwfl drwy ymosod ar ac ysbeilio tai eu gelynion. Ond yr oedd y Swltan wedi paratoi ar gyfer hyn, ac wrth gyfodi baner gwrthryfel, yr oeddynt yn mynd yn uniongyrchol i'w dinistr eu hunain. Safodd milwyr eraill yr ymerodraeth yn ffyddlon i Mahmoud, amgylchwyd y Janisariaid, ac er iddynt ymdrechu amddiffyn eu hunain, yr oedd y cyfan yn ofer, a thybir fod yn agos i 20,000 wedi trengu yn y terfysg hwnnw. Ac o'r pryd hwnnw, llwyr ddiddymwyd y Janisariaid fel corff, a hynny ar 14 Mehefin 1826.

Cyfeiriadau golygu

  1.  janisari. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2019.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.