Jeff Young
Chwaraewr Rygbi'r undeb o Gymru oedd Jeffrey "Jeff" Young OBE (16 Medi 1942 - 3 Hydref 2005). Enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel bachwr rhwng 1968 a 1973.
Jeff Young | |
---|---|
Ganwyd | 16 Medi 1942 Cymru |
Bu farw | 3 Hydref 2005 o clefyd Alzheimer Harrogate |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Bridgend Ravens, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Bachwr (rygbi) |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Young ym Mlaengarw ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Garw a Choleg San Luc, Caerwysg. Chwaraeodd bum gwaith dros Ysgolion Uwchradd Cymru. Athro oedd wrth ei alwedigaeth. Chwaraeodd rygbi dros glybiau Blaengarw, Harrogate, Penybont-ar-Ogwr a Chymry Llundain. Chwaraeodd i dîm Dwyrain Cymru a gafodd gêm gyfartal gyda'r Crysau Duon yn 1967.
Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd yn 1968, a daeth yn ddewis cyntaf fel bachwr i Gymru, gan chwarae mewn 22 o'r 26 gêm ryngwladol nesaf. Chwaraeodd yn y tîm a enillodd Y Gamp Lawn yn 1971 ac ymddangosodd am y tro olaf yng nghryd Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1973. Wedi hynny enillodd Bobby Windsor y gystadleuaeth am safle'r bachwr. Dewiswyd Young i fynd ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1968 a chwaraeodd yn y gêm brawf gyntaf.
Yn 1971 rhoes y gorau i fod yn athro ac ymunodd â'r RAF. Yn 1991 daeth yn rheolwr technegol cyntaf Undeb Rygbi Cymru ac yn ddiweddarach bu'n Rheolwr Rygbi yn Harrogate. Derbyniodd yr OBE am ei wasanaeth i rygbi a'r RAF. Bu farw Jeff Young yn Harrogate, Swydd Efrog, yn Hydref 2005.
Dolenni allanol
golygu- Teyrnged i Jeff Young Archifwyd 2006-03-26 yn y Peiriant Wayback