John Cheke
Ysgolhaig o Loegr oedd Syr John Cheke (sillefir hefyd Cheek; 16 Mehefin 1514 – 13 Medi 1557).[1]
John Cheke | |
---|---|
Engrafiad o Syr John Cheke gan Joseph Nutting (1705) | |
Ganwyd | 16 Mehefin 1514 Caergrawnt |
Bu farw | 13 Medi 1557 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, ysgolhaig clasurol |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the March 1553 Parliament |
Cyflogwr | |
Tad | Peter Cheke |
Mam | Agnes Duffield |
Priod | Mary Cheke |
Plant | Henry Cheke, Anhysbys Cheke |
Ganed ef yng Nghaergrawnt, ac yno daeth yn gymrawd yng Ngholeg Sant Ioan. Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, trodd Cheke Brifysgol Caergrawnt yn ganolfan i grefydd Ddiwygiedig a dyneiddiaeth y Dadeni. Fe'i penodwyd yn Athro Brenhinol cyntaf Caergrawnt yn yr iaith Roeg gan y Brenin Harri VIII ym 1540. Gyda'i gyfaill a chyd-academydd Thomas Smith, darganfyddasant y ffordd gywir o ynganu'r Hen Roeg. Bu'n diwtor i'r Tywysog Edward ym 1544, ac chafodd ei urddo'n farchog gan efe—Edward VI—ym 1552.
Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd ym 1553, diswyddwyd Cheke o'i swyddi gwladwriaethol a ffoes i'r Cyfandir. Cyhoeddwyd ei ohebiaeth â'r Esgob Stephen Gardiner ar bwnc ynganiad Groeg yn Basel ym 1555. Ar ei ffordd o Frwsel i Antwerp, yn yr Iseldiroedd Hapsbwrgaidd, ym 1556, cipiwyd Cheke ar orchymyn Felipe II, brenin Sbaen, gŵr y Frenhines Mari, a chafodd ei ddwyn yn ôl i Loegr a'i garcharu yn Nhŵr Llundain. Mewn ymgais i osgoi dienyddiad, gwadodd ei ffydd Brotestannaidd yn gyhoeddus, ac o'r herwydd dywed iddo farw o'i gywilydd, yn 43 oed.
Ysgolhaig o fri ydoedd, ac er iddo ysgrifennu ond ychydig yn iaith y werin (yn ogystal â nifer o gyfieithiadau o'r Roeg i Ladin), bu'n ddylanwadol wrth hyrwyddo arddull syml o ryddiaith Saesneg yn yr 16g.[2] Cyfeirir ato ("O soul of Sir John Cheek") yn Soned XI, "A Book was writ of late", gan John Milton.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir John Cheke. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.
- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), tt. 191–2.