Agor y brif ddewislen

Pentref bychan ar Ynys Môn yw Tregele ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd yng ngogledd yr ynys ar lôn yr A5025, tua thri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Cemaes.

Tregele
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.4°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)
Golygfa ar gwr Tregele i gyfeiriad Wylfa.

Ceir lôn yn rhedeg i lawr i Fae Cemlyn ar yr arfordir i'r gogledd-orllewin. Hanner milltir i'r de o'r pentref ceir cromlech ar Foel Fawr, ar y ffordd i Llanfechell.

Mae atomfa'r Wylfa yn gorwedd cwta hanner milltir i'r gogledd o'r pentref, gyda gwarchodfa natur Cemlyn gerllaw.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato