John Hughes (Lerpwl)
Roedd John Hughes (11 Chwefror 1796 – 8 Awst 1860) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn awdur Cymreig.[1]
John Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1796 Wrecsam |
Bu farw | 8 Awst 1860 Abergele |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Plant | Mrs Josiah Thomas |
Cefndir
golyguGanwyd Hughes yn Adwy'r Clawdd, Coedpoeth yn blentyn i Hugh Hughes, Saer Coed a Mary (née Davies) ei wraig. Roedd yn frawd i Richard Hughes, perchennog cwmni argraffu a chyhoeddi Hughes a'i Fab, cyhoeddwr ei holl lyfrau. Yr Ysgol Sul oedd brif ffynhonnell ei addysg yn blentyn.[2]
Gyrfa
golyguDilynodd Hughes yn ôl traed ei dad trwy weithio fel saer coed hyd ei fod yn 19 mlwydd oed. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Adwy'r Clawdd ym 1810 a dechreuodd pregethu ym 1813.[1] Ym 1815 rhoddodd gorau i fywyd y saer ac agorodd ysgol elfennol ym mhentref Yr Hôb. Ymadawodd a'i ysgol er mwyn mynd i'r ysgol ei hun i ddysgu Lladin a Groeg. Agorodd ysgol arall yn Wrecsam ym 1819 a oedd yn dysgu plant a hefyd yn derbyn myfyrwyr hŷn er mwyn eu paratoi at waith y weinidogaeth, gan nad oedd gan Y Methodistiaid Calfinaidd academi enwadol ar y pryd. Ym 1821 rhoddwyd caniatâd iddo i bregethu mewn unrhyw fan yng Nghymru ac ym 1822 pregethodd o flaen Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Y Bala ym 1829.[2]
Gan nad oedd gweinidogion yn cael cyflog lawn yn ei gyfnod parhaodd Hughes i gadw ei ysgol yn Wrecsam hyd 1834. Ym 1834 aeth i bartneriaeth ag un o'i frodyr mewn busnes gwerthu blawd, yn gyntaf yn Wrecsam ac yna yn Lerpwl. Ym 1838 penodwyd ef yn gyd weinidog ar gapeli Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ar y cyd a'r Parch Henry Rees.[3] Ymddeolodd o'r weinidogaeth ym 1860 ychydig cyn ei farwolaeth.
Teulu
golyguBu Hughes y briod ddwywaith. Ym 1820 priododd Mary Ann Jones; bu hi farw ym 1827. Ym 1833 priododd Grace, ei ail wraig. Rhwng y ddwy briodas cafodd pum mab a saith Merch.[2]
Marwolaeth
golyguBu farw ar ymweliad ag Abergele yn 64 mlwydd oed.[4] Cludwyd ei gorff gan long o'r Rhyl i Lerpwl. Wedi gwasanaeth yng Nghapel Cymraeg Bedford Street a mynychwyd gan dros 64 o weinidogion claddwyd ei weddillion ym mynwent Toxteth Park.[5]
Awdur
golyguBu Hughes yn awdur a chyfieithydd nifer o lyfrau ar wahanol agweddau o fywyd crefyddol yn ei phlith oedd:
- Cydymaith Yr Ysgrythyr: Yn Cynnwys Sylwadau Ar Ddilysrwydd Ac Ysbrydoliaeth Yr Ysgrythyrau
- Y Profiedydd Ysgrythyrol, neu Eirlyfr cryno, o faterion Ysgrythyrol, dan adraniadau priodol, profedig ag adnodau o'r Beibl [6]
- Drych prophwydoliaeth: neu Wiredd, dyben a deongliad prophwydoliaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd. [7]
- Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i darddiad dwyfol [8]
- Hanes yr athrawiaeth Gristionogol [9]
- Holwyddoreg ar hanesiaeth ysgrythyrol.[10]
Ei gampwaith fel awdur oedd y tair cyfrol Methodistiaeth Cymru : sef hanes blaenorol a gwedd bresennol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, o ddechread y cyfundeb hyd y flwyddyn 1850 a gyhoeddwyd gan ei frawd rhwng 1851 a 1856. Mae copïau digidol o'r cyfrolau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[11][12][13][14]
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Roger Edwards ym 1864 Buchdraeth y diweddar Barchedig John Hughes, Liverpool, awdwr 'Methodistiaeth Cymru' &c. &c: ynghyda detholion o'i bregethau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Hughes, John (1796–1860), Calvinistic Methodist minister | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14081. Cyrchwyd 2020-01-06.
- ↑ "Y DIWEDDAR BARCH JOHN HUGHES LIVERPOOL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1860-08-22. Cyrchwyd 2020-01-06.
- ↑ "DEATH OF THE REV JOHN HUGHES - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1860-08-11. Cyrchwyd 2020-01-06.
- ↑ "FUNERAL OF THE REV JOHN HUGHES WELSH CALVINISTIC MINISTER LIVERPOOL - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1860-08-18. Cyrchwyd 2020-01-06.
- ↑ Hughes, John (1846). Y Profiedydd Ysgrythyrol, neu Eirlyfr cryno, o faterion Ysgrythyrol, dan adraniadau priodol, profedig ag adnodau o'r Beibl. Gwrecsam: R. Hughes,.CS1 maint: extra punctuation (link)
- ↑ Hughes, John (1855). Drych prophwydoliaeth: neu Wiredd, dyben a deongliad prophwydoliaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Argraffwyd gan R. R. Meredith.
- ↑ Hughes, John (1866). Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i darddiad dwyfol. Liverpool: T. Lloyd.
- ↑ Hughes, John (1883). Hanes yr athrawiaeth gristionogol. Treffynnon: P.M. Evans & Son.
- ↑ Hughes, John (1859). Holwyddoreg ar hanesiaeth ysgrythyrol. Gwrecsam.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-01-05.
- ↑ Cyfrol gyntaf Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
- ↑ Ail gyfrol Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
- ↑ Cyfrol 3 Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive