Methodistiaeth Cymru (John Hughes)

Mae Methodistiaeth Cymru : sef hanes blaenorol a gwedd bresennol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, o ddechread y cyfundeb hyd y flwyddyn 1850 yn llyfr hanes eglwysig gan Y Parchedig John Hughes (1796 - 1860).[1][2] Cyhoeddwyd y llyfr mewn tair cyfrol rhwng 1851 a 1856 gan argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam. (Roedd Richard Hughes, perchennog Hughes, a'i fab yn frawd yr awdur [3]).

Wynebddalen cyfrol I Methodistiaeth Cymru gan John Hughes.

Mae copïau digidol o'r cyfrolau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Cynnwys golygu

Cyfrol 1 golygu

Mae'r gyfrol yn agor gyda disgrifiad o ddyfodiad Cristionogaeth i Gymru. Trwy ddyfynnu Tetullian, Arnobus, Chrysostom, Esubius a'r Ymerawdwr Cwstenin mae'n awgrymu bod hyn wedi digwydd rhywbryd rhwng y ganrif gyntaf a'r 3g o oed Crist. Mae'n awgrymu mae Bran ap Llyr tad Caradog fab Brân, oedd y Cristion Brythoneg gyntaf. Er mae'n mynnu mae'r un dyn oedd Caradog fab Bran a'r Brenin Caradog. Mae'n trafod cyfraniad Cunedda Brychan, Llid Cyndaf ac Arwystl ap Maelgwn Gwynedd at ledaenu'r efengyl yng Nghymru. Mae'n crybwyll hanes Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Brwydr yr Haleliwia a brad a thwyll Sant Awstin i sicrhau goruchafiaeth y Pab dros yr eglwys Brythoneg. Mae'n cyfeirio at y cyfnod rhwng brad Awstin a dechrau Protestaniaeth fel oes dywyll ar grefydd Cymru.[5]

Mae ail bennod y gyfrol yn sôn am John Wycliffe fel Seren Fore'r diwygiad Protestannaidd ac yn trafod dyfodiad Protestaniaeth i Gymru ar adeg Harri VIII ei drai dan Fari Waedlyd a'i ail ddyfodiad dan deyrnasiad Elisabeth I. Mae gweddill y bennod yn rhoi byr fywgraffiadau i rai o ledaenwyr cynnar Protestaniaeth yng Nghymru Rhys Pritchard, William Erbury, Walter Cradock, Vavasor Powell, Thomas Gouge, Stephen Hughes, Morgan Llwyd, Henry Maurice a Hugh a James Owen.

Mae'r drydedd bennod yn trafod cyflwr Cymru ar ddechrau Methodistiaeth. Mae'n sôn am ansawdd y wlad o ran crefydd, effaith ymyrraeth wladol ar ryddid addoliad, clerigwyr Eglwys Loegr, a'r enwadau ymneilltuol eraill a bodolai yng Nghymru'r cyfnod. Mae'n trafod hoffter y Cymry at ddefnyddio'r Sul ar gyfer chwaraeon, yn arbennig tenis a dawnsio. Mae'n sôn am ofergoelion ac anwybodaeth y Cymry am yr Efengyl a'u creulondeb ac atgasedd at y pregethwyr Methodistaidd Cynnar.

 
John Hughes

Yn y bedwaredd bennod o'r gyfrol gyntaf, ac am weddill y llyfr mae Hughes yn dechrau trin gwir bwnc ei lyfr, sef hanes Methodistiaeth. Mae'n adrodd am gychwyniad yr achos yng Nghymru yn gyffredinol. Mae'n sôn am Fethodistiaid cynharaf gogledd Cymru a deheubarth Cymru. Mae'n trafod tadau'r enwad megis Griffith Jones, Llanddowror, Daniel Rowlands, Howel Harris, Pantycelyn, Peter Williams a Howel Davies. Mae'n sôn am gychwyniad a chychwynwyr yr achos yn siroedd Môn, Trefaldwyn, Dinbych a'r Fflint ac yn rhoi amlinelliad o symudiadau tebyg yng Ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol.

Mae gweddill y gyfrol gyntaf yn edrych ar natur a'r rhesymau am gynnydd Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru gan gynnwys trafodaethau am y weinidogaeth deithiol, cyfraniad pregethwyr lleyg, tröedigaeth pobl ddylanwadol, yr ymgyrch Ysgolion Sul a gwaith hynod Thomas Charles o'r Bala. Mae Hughes hefyd yn trin a thrafod ambell i rwyg yn y cyfundeb Methodistaidd fu'n rhwystr i dwf Methodistiaeth megis y rhwyg rhwng Rowlands a Harris, a rhwygiadau am greu eglwys ar wahân i Eglwys Loegr.

Cyfrolau II a III golygu

Hanes sefydlu capeli unigol yn y gwahanol siroedd yw cyfrolau II [6] a III,[7] ar y cyfan. Ceredigion, Sir Gaernarfon, Sir Benfro, Sir Drefaldwyn, Sir Gaerfyrddin a Sir Fôn yn yr ail gyfrol. Sir Forgannwg, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed yn y drydedd gyfrol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
  2. "Hughes, John (1796–1860), Calvinistic Methodist minister | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14081. Cyrchwyd 2020-01-06.
  3. "HUGHES, RICHARD (1794 - 1871), argraffydd a chyhoeddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-01-05.
  5. Cyfrol gyntaf Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
  6. Ail gyfrol Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
  7. Cyfrol 3 Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive