John Roberts (pêl-droediwr)
Cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a Wrecsam oedd John Griffith Roberts (11 Medi 1946 – 4 Ionawr 2016). Fe'i ganed yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf[1] a llwyddodd i ennill 22 cap dros Gymru rhwng 1971 a 1976.
John Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 11 Medi 1946 Abercynon |
Bu farw | 4 Ionawr 2016 Sydenham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, gwerthwr, driving instructor, rheolwr pêl-droed |
Taldra | 190 centimetr |
Pwysau | 85 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Birmingham City F.C., Arsenal F.C., Hull City A.F.C., Northampton Town F.C., Oswestry Town F.C., C.P.D. Wrecsam, C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed, C.P.D. Y Seintiau Newydd |
Safle | centre-back |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Safle | Amddiffynnwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1964–1967 | Abertawe | 37 | (16) |
1967–1969 | Northampton Town | 62 | (11) |
1969–1972 | Arsenal | 59 | (4) |
1972–1976 | Birmingham City | 66 | (1) |
1976–1980 | Wrecsam | 145 | (5) |
1980–1982 | Hull City | 26 | (1) |
Cyfanswm | 395 | (38) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
Cymru d21 | 1 | (0) | |
Cymru d23 | 5 | (0) | |
1971–1976 | Cymru | 22 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
golyguDechreuodd Roberts ei yrfa fel ymosodwr gydag Abertawe gan ymuno â'r clwb fel amatur cyn troi'n broffesiynol ym 1964. Wedi tair blynedd ar y Vetch, symudodd i Northampton Town am £15,000 yn Nhachwedd 1967. Tra'n chwarae i Northampton symudodd o chwarae fel ymosodwr i chwarae yn yr amdiffyn[2]. Ym Mai 1969 penderfynodd Arsenal dalu £45,000 amdano a daeth yn aelod allweddol o'r garfan lwyddodd i ennill Cynghrair Lloegr a Chwpan FA Lloegr ym 1970-71[2].
Yn Hydref 1972 ymunodd Roberts â Birmingham City am £140,000 a chwaraeodd yn rheolaidd am y ddau dymor nesaf cyn i anaf cas ei orfodi absenoldeb hir dymor. Ym 1976, wedi methu a sicrhau ei le yn ôl yn nhîm Birmingham, symudodd i Wrecsam am £30,000 er mwyn cymryd lle Eddie May oedd wedi gadael am Abertawe. Roedd yn aelod allweddol o garfan Wrecsam lwyddodd i sicrhau dyrchafiad i'r Ail Adran a chodi Cwpan Cymru ym 1977-78.
Gadawodd Wrecsam ym 1980 gan ymuno â Hull City am £15,000 ond daeth ei yrfa i ben oherwydd anaf ym Mehefin 1982[2].
Gyrfa ryngwladol
golyguGwnaeth Roberts ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Alban ar Barc Ninian, Caerdydd ym 1971[3]. Roedd yn aelod o garfan Cymru chwaraeodd yng ngemau rhagbrofol Euro 1976[4][5] a casglodd yr olaf o'i 22 cap yn erbyn Yr Alban ym 1976[3].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Welsh International Soccer Players. t. 178. ISBN 1 872424 11 2. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 2.0 2.1 2.2 Peter Jones a Gareth M. Davies (1999). The Racecourse Robins: Adams To Youds. t. 261. ISBN 0-952495-01-5.
- ↑ 3.0 3.1 "Wales 0-0 Scotland". eu-football. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Austria 2-1 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Hungary 1-2 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help)