Karl Adam
Diwinydd ac offeiriad Catholig o'r Almaen oedd Karl Adam (22 Hydref 1876 – 1 Ebrill 1966).[1]
Karl Adam | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1876 Pursruck, Freudenberg |
Bu farw | 1 Ebrill 1966 Tübingen |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, academydd |
Cyflogwr | |
Tad | Clemens Adam |
Mam | Babette Adam |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Sant Mihangel |
Ganwyd yn Pursuck in Oberpfalz, a leolir heddiw ym mwrdeistref Freudenberg, ger Amberg, Bafaria. Cafodd ei addysg yn y gymnasiwm yn Amberg a'r Coleg Diwinyddol ac Athronyddol yn Regensburg, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol München ym 1904. Cafodd ei ordeinio ym 1900, a threuliodd ddwy flynedd ar y plwyf. Dychwelodd i München ym 1908 i fod yn diwtor, a fe'i penodwyd yn athro yno ym 1915. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe gymerodd y Gadair Ddiwinyddiaeth Foesol ym Mhrifysgol Strasbwrg, ond bu'n rhai iddo adael yn ôl telerau Cytundeb Versailles a oedd yn gwahardd dinasyddion Almaenig rhag Alsás.[2] Dychwelodd i Goleg Diwinyddol Regensburg i addysgu diwinyddiaeth ym 1918, a'r flwyddyn olynol aeth i Brifysgol Tübingen i gymryd y Gadair Ddiwinyddiaeth Ddogmataidd. Yno, fe draddododd ei ddarlithoedd enwog ar bwnc yr Eglwys.
Canolbwyntiodd Adam ar hanes dogma yn ei waith cynnar. Roedd yn hoff iawn o Dadau'r Eglwys, a fe'i nodir am ei arbenigedd ar batristeg a Tertullian ac Awstin o Hippo yn enwedig. Yn ei ddiwinyddiaeth hanesyddol, cafodd ei ddylanwadu gan weithiau Ignatius Döllinger, Joseph Schnitzer, ac Albert Ehrhard, ac o ganlyniad cafodd ei rybuddio gan Swyddfa Sanctaidd y Fatican sawl gwaith rhag cael ei geryddu. Yn Tübingen, trodd at ddiwinyddiaeth systematig a dulliau ffenomenolegol. Pwysleisiodd ddisgrifiadau Pawl o'r Eglwys Gristnogol fel corff o ddilynwyr, gan felly portreadu'r Eglwys fel cymuned yn hytrach na sefydliad fel y mynnai Cyngor Cyntaf y Fatican, neu gymhlethfa fel y dadleuai'r Protestaniaid. Cyhoeddodd ei lyfr enwocaf, Das Wesen des Katholizismus ("Hanfod Catholigiaeth"), ym 1924. Ysgrifennodd hefyd driawd ar fywyd Iesu Grist: Jesus Christus (1935), Christus unser Bruder ("Crist ein Brawd"; 1938), a Der Christus des Glaubens ("Crist y Ffydd"; 1954). Agweddau cerygmataidd sydd i'w Gristoleg, a gwelir dylanwad y newydd-ramantiaeth a oedd yn boblogaidd yn yr Almaen yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.[1]
Ym 1933, galwodd Adam am ailgymodi Sosialaeth Genedlaethol â Chatholigiaeth a chyhoeddodd draethawd yn cefnogi Adolf Hitler. Y flwyddyn olynol, fe newidiodd ei farn, a chafodd ei erlid gan yr awdurdodau am iddo ladd ar baganiaeth Diwtonaidd mewn anerchiad i ieuenctid Catholig yn Stuttgart. Er mwyn iddo gadw ei hawl i addysgu, cytunodd Adam i beidio â beirniadu'r llywodraeth byth eto.[2] Yn ei lyfr Una Sancta (1948), lluniai dadl Gatholig dros eciwmeniaeth. Ymddeolodd o'i swydd yn Tübingen ym 1949, a daliai'r teitl athro emeritws hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn y dref honno yn 89 oed. Cafodd ddylanwad ar sawl diwinydd Catholig yn ail hanner yr 20g, gan gynnwys Karl Rahner, Edward Schillebeeckx, Hans Küng, a Walter Kasper.
Llyfryddiaeth
golygu- Der Kirchenbegriff Tertullians (1907)
- Die Eucharistielehre des heiligen Augustin (1908)
- Das sogenannte Busseedikt des Papstes Kalixtus (1917)
- Die kirchliche Sündervergebung nach dem heiligen Augustin (1917)
- Das Wesen des Katholizismus (1924)
- Jesus Christus (1935)
- Christus unser Bruder (1938)
- Una Sancta (1948)
- Der Christus des Glaubens (1954)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Robert A. Krieg, "Karl Adam" yn Biographical Dictionary of Christian Theologians, golygwyd gan Patrick W. Carey a Joseph T. Lienhard (Westport, Connecticut: Greenwood, 2000), tt. 7–8.
- ↑ 2.0 2.1 Robert A. Krieg, "Karl Adam, National Socialism, and Christian tradition Archifwyd 2017-03-21 yn y Peiriant Wayback", Theological Studies 60 (1999).
Darllen pellach
golygu- Robert A. Krieg, Karl Adam: Catholicism in German Culture (Notre Dame Press, 1992).