Kneecap (band)

Band rap o Belffast sy'n rapio yn yr iaith Wyddeleg

Triawd rap o Orllewin Belfast sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg yw Kneecap; Mae tri dyn ifanc yn y grŵp sef; Mo Chara, (Liam Óg Ó hAnnaidh), Móglaí Bap (Naoise Ó Cairealláin) a DJ Próvaí (JJ Ó Dochartaigh) ac yn defnyddio hen sloganau ymfflamychol yr IRA fel rhan o’u hymgyrch cyhoeddusrwydd.[1][2] Mae nhw wedi nodi bod llwyddiant y Sîn Roc Gymraeg wedi bod yn ysbrydoliaeth a dylanwad arnynt i ganu yn yr iaith Wyddeleg.[3]

Kneecap
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2017 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2017 Edit this on Wikidata
Genrerapio, hip hop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMo Chara, Móglaí Bap, DJ Próvaí Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kneecap.ie/ Edit this on Wikidata

Cerddoriaeth

golygu

Rhyddhaodd Kneecap eu sengl gyntaf, 'CEARTA' ("hawl"),[4][5][6] yn 2017.[7] Daw'r enw o weithred ar y diwrnod cyn gorymdaith An Dream Dearg dros Ddeddf Iaith Wyddeleg yn 2017, lle roedd Móglaí Bap a ffrind yn chwistrellu graffiti i gefnogi'r ymgyrch iaith. Ysgrifennodd ei ffrind y gair 'Cearta' (Hawliau) ar safle bws yn Belfast pan daeth yr heddlu ac arestiwyd y ffrind. Gwrthododd siarad Saesneg â nhw, a threuliodd y noson dan glo cyn i gyfieithydd gyrraedd. Mae'r gân 'C.E.A.R.T.A.' yn seiliedig ar y digwyddiad hwnnw."[8]

Roedd y sengl yn llwyddiannus iawn a phenderfynodd Mo Cara, Mógálí Bap a DJ Próv.aí barhau fel Kneecap. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd y sengl ar Youtube wedi derbyn 1.4 miliwn gwyliad.[9]

Daeth eu halbwm cyntaf, "Fine Art" allan ym mis Mehefin 2024.[10] Derbyniodd Fine Art adolygiad pum seren gan yr NME, a ddywedodd y bydd rapio Moglé Bap a Mo Cara yn eich cadw'n swynol a bod yn albwm sy'n ffafrio hiwmor a barddoniaeth.[11]

Anogaeth

golygu
 
Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y Falls Road, canolfan Wyddeleg dinas Belffast

Roedd Rónán Mac Aodha Buí yn ysbrydoliaeth fawr i’r band. "Heb Rónán Mac Aodha ni fyddai Kneecap yn bodoli heddiw, ef a roddodd lwyfan i gymaint o gerddorion, a roddodd lais da ar y radio ac a ysbrydolodd bob math o gerddoriaeth. Roedd bob amser yn credu mewn cerddoriaeth Wyddelig gyfoes ac fe roddodd dipyn o egni i mewn iddo. Rónán oedd y cyflwynydd gyntaf i chwarae CEARTA ar Raidió na Gaeltachta ond wedyn cafodd y gân ei gwahardd ac fe gafodd hynny fwy o gyhoeddusrwydd i ni nag y gallen ni erioed ddychmygu, roedd yn ddyn a gymerodd siawns. Rónán roddodd ein gig cyntaf i ni yn y Little Jewish House, gig a ddechreuodd ein taith gerddorol o ddifri."[12]

Mae llinell yn CEARTA yn adlais o gorws Moca ("moch"), trac o'r band hip hop Gwyddeleg, Craos, "Muca Muca Muca sa tóir ar do mheon Muca Muca Muca mo ghráin iad go deo" ("Moch Moch Moch yn erlid dy ysbryd Moch Moch Moch Mae'n gas gen i nhw am byth")".

Dadleuol

golygu

Mae Kneecap yn destun dadlau. Daeth Kneecap yn enwog gyntaf yn 2017 pan ddywedwyd bod RTÉ wedi gwahardd y gân CERTA.

Enw'r grŵp

golygu

Kneecap yw'r term am gosb parafilwrol lle byddai aelod o'r IRA yn saethu person (fel arfer rhywun a gyhiddir, ar gam neu beidio, o frad) yn eu pengliniau. Roedd yn gosb greulon bod pobl ifanc yn cael eu rhoi am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithredoedd eraill nad oedd yr IRA yn eu hoffi.[2] Mae’n debyg bod yna dipyn o chwarae ar eiriau hefyd yn gysylltiedig â’r geiriau Gwyddeleg "ní cheapaim" sef yr ergyd mewn jôc boblogaidd.[13] Mae'r un jôc, yr oedd nifer o fersiynau ohoni, yn seiliedig ar yr ateb amwys i'r cwestiwn.[14]}}

Dau aelod o'r IRA yn trafod beth ddylid ei wneud gydag aelod o'r UVF. Maent yn siarad Gwyddeleg a Saesneg. "Should we kneecap him? Ní cheapaim." (ystyr ní cheapaim yd: Dwi ddim yn meddwl hynny)"

Agwedd gwrth-sefydliad

golygu

Mae ganddyn nhw agwedd gwrth-sefydliad, maen nhw'n delio â chyffuriau ac yn aml yn pryfocio'r heddlu. Maent yn Weriniaethwyr i'r craidd[15] ond ar yr un pryd maent wedi mynnu nad oes neges sectyddol yn eu cerddoriaeth.

Mae Kneecap yn defnyddio’r term RUC i ddisgrifio’r heddlu presennol yn y gogledd, y PSNI neu Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI).[7]

Mynegodd Kneecap eu undod â phobl Palestina trwy hongian baner mewn cyngherddau.[16]

Gwnaethpwyd ffilm yn 2023, Kneecap, sy'n adrodd hanes a thwf y band lle mae aelodau'r band yn chwarae eu hunain.[17] Ochr yn ochr ag aelodau'r band mae ag actorion mwy profiadol gan gynnwys Michael Fassbender, Josie Walker, a Simone Kirby. Lleolir y ffilm yn Cwarter Gaeltacht, Belffast yn 2019. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn y Ngŵyl Ffilmiau Sundance ar 18 Ionawr 2024, y ffilm gyntaf yn Wyddeleg i wneud hynny.[18]

Ym mis Awst 2024, cyhoeddodd Academi Ffilm a Theledu Iwerddon eu bod wedi dewis Kneecap fel eu cyflwyniad swyddogol i gynrychioli Iwerddon yn y Categori Ffilm Rhyngwladol yn y 97ain Gwobrau'r Academi.[19]

Kneecap a Chymru

golygu

Mewn cyfweliad yn 2024 wrth hyrwyddo eu ffilm a gwneud cyngerdd yng Nghaerdydd soniodd y band sut y bu gweld grŵpiau yn canu yn y Gymraeg yn ysbrydoliaeth iddynt ganu yn y Wyddeleg. Dwedont i'r frwydr dros amddiffyn y Gymraeg roi ysbrydolaieth iddynt yn yr ysgol ac wrth edrych ar ennill deddfwriaeth dros y Wyddeleg. Meddai DJ Próvaí (yr aelod yn y balaclafa), “roedden ni’n gweld pa mor wrthryfelgar oedd y Cymry’n rhwygo arwyddion uniaith Saesneg i lawr, y gwaith roedd Cymdeithas Yr Iaith yn ei wneud, ac roedd S4C yn sbardun i ni sefydlu TG4.” Esboniodd Móglaí fel iddo ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol a mwynhau cyngerdd pop Cymraeg gyda cherddoriaeth electronaidd. Meddai, "... o'n i'n meddwl fod hi’n anhygoel gweld y bobl ifanc ma’n cysylltu gymaint efo’u hiaith drwy gerddoriaeth fodern".[3]

Chwaraeodd y grŵp gig yn neuadd Tramshed yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd ar 1 Hydref 2024.[20] Bu iddynt hefyd recordio cyfarchiad yn y Gymraeg "ni yw Kneecap a dyma Cymru Fyw", i hyrwyddo'r gig a'r ffilm.[21]

Ennill achos llys

golygu

Ar 19 Tachwedd 2024 ennillodd y grŵp achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU ar ôl i'r cyn ysgrifennydd busnes Kemi Badenoch wrthod gwobr o £14,250 iddynt. Roedd y grŵp wedi gwneud cais am grant oedd yn cefnogi artistiaid o'r DU mewn marchnadoedd rhyngwladol. Fe wnaeth y band ddwyn achos yn erbyn y llywodraeth gan honni bod y penderfyniad i wrthod grant yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail cenedligrwydd a barn wleidyddol.[22]

Disgyddiaeth

golygu

Albymau

golygu
  • 3CAG (2018)
  • Fine Art (2024)

Senglau

golygu
Rhetr senglau, gyda man uchaf siartiau
Teitl Dyddiad rhyddhau Safle uchaf yn y siartiau
Siart Senglau Iwerddon|
[23]
"C.E.A.R.T.A" December 2017
"H.O.O.D" June 2019 78
"Gael-Gigolos" June 2019
"Fenian Cunts" Medi 2019
"Get Your Brits Out" Hydref 2019 100
"Mam" Rhagfyr 2020
"Guilty Conscience" Hydref 2021
"Thart agus Thart" Hydref 2021
"Its Been Ages" Mawrth 2023
"Better Way to Live" Tachwedd 2023 92

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lucy O'Toole. "12 INTERVIEWS OF XMAS: KNEECAP on Controversies, Misconceptions, Mental Health and Generational Trauma". Hotpress. Cyrchwyd 2024-01-27.
  2. 2.0 2.1 Nuacht RTÉ (2024-01-23). "'Mór an náire airgead poiblí a bheith caite ar Kneecap'" (yn Gwyddeleg).
  3. 3.0 3.1 "Kneecap: 'Y Gymraeg yn ysbrydoliaeth'". BBC Cymru Fyw. 4 Hydref 2024.
  4. NÓS (15 Rhagfyr 2017). "Amhrán na hAoine". NÓS (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.
  5. "A Short Glossary for the Irish Rap Song "C.E.A.R.T.A" by Kneecap (Rapcheol Gaeilge) Cuid/Pt.1". Irish Language Blog | Language and Culture of the Irish-Speaking World. 2018-01-07. Cyrchwyd 2024-01-23.
  6. "KNEECAP - C.E.A.R.T.A (Official Music Video)" (yn Gwyddeleg).
  7. 7.0 7.1 Foireann NÓS. "Amhrán na hAoine 'C.E.A.R.T.A.', le Kneecap". NÓS. Cyrchwyd 2019-02-05.
  8. Mullally, Una. "Kneecap: 'Low-life scum' of west Belfast rap whose day has come". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Medi 2020.
  9. "KNEECAP - C.E.A.R.T.A (Official Music Video)". Sianel Youtube Kneecap. 2018.
  10. "Michael Fassbender le Gaeilge a labhairt i scannán nua". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2023-03-30.
  11. "Ardmholadh do Kneecap agus dá n-albam 'réabhlóideach'". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 2024-06-18. Cyrchwyd 2024-06-18.
  12. Méabh Ní Thuathaláin (16 Chwefror 2023). "'An méid grá atá ag teacht chuige, tá sé go hiontach' – airgead á bhailiú do chúnamh leighis do Rónán Mac Aodh Bhuí". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2024-01-23.
  13. "'Kneecapaim é' a deir Ard Chúirt Bhéal Feirste le Badenoch" (yn Gwyddeleg). 2024-11-29.
  14. Gael GÁIRÍ ar Twitter (5 Ionawr 2014). "@GaelGÁIRÍ". Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2024.
  15. "Stupid questions Irish people are always asked, answered by KNEECAP - YouTube". www.youtube.com. Cyrchwyd 2021-01-10.
  16. "KNEECAP - 2019 RECAP". youtube. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2024.
  17. "Kneecap | movie | 2024 | Official Clip - video Dailymotion". Dailymotion (yn Gwyddeleg). 2024-01-18. Cyrchwyd 2024-01-27.
  18. O'Broin, Cian (6 Rhagfyr 2023). "Belfast rap group Kneecap make history with new film becoming first Irish language movie at Sundance Festival". Irish Independent. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
  19. "IFTA Announces Kneecap As Ireland's Entry For Oscars® 2025 - International Feature Film". www.ifta.ie. Cyrchwyd 2024-10-16.
  20. "'Anhygoel': Grŵp hip hop sy'n rapio mewn Gwyddeleg yn 'cynnig rhywbeth newydd' i'r iaith". Newyddion S4C. 2 Hydref 2024.
  21. "Trio Dysgu ychydig o Gymraeg i Kneecap". sianel Instagram BBC Cymru Fyw. 4 Hydref 2024.
  22. "Y grŵp hip hop Kneecap yn ennill achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU". Newyddion S4C. 29 Tachwedd 2024.
  23. "IRMA – Irish Charts: Week 35, 2024". Irish Recorded Music Association. Cyrchwyd 31 Awst 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.