Krak des Chevaliers

Castell anferth a godwyd gan y Croesgadwyr yw Krak des Chevaliers ("Castell y Marchogion"; cyfuniad o'r gair Arabeg krak / kerak "caer, castell" a'r Ffrangeg chevaliers). Saif ar fryn 630m o uchder ger dinas Homs yng nghanolbarth Syria, i'r gogledd o'r briffordd rhwng y ddinas honno a Beirut yn Libanus.

Krak des Chevaliers
Mathconcentric castle, crusader castle Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1031 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCrac des Chevaliers and Qal’at Salah El-Din Edit this on Wikidata
SirAl-Husn, Syria Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Arwynebedd2.38 ha, 37.69 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.7569°N 36.2944°E Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethMarchogion yr Ysbyty Edit this on Wikidata
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata
Krak des Chevaliers o'r de

Hanes golygu

Codwyd y castell gan groesgadwyr o Ffrainc. Mae'r Krak yn un o'r enghreifftiau gorau o grefft y penseiri cestyll. Bu farw'r croniclydd canoloesol enwog Geoffrey de Joinville yno.

Codwyd yr amddiffynfa gyntaf ar y safle yn 1031 ar ran emir Aleppo. Fe'i cipiwyd dros dro gan y cownt Raymond IV o Toulouse yn gynnar yn 1099, yn ystod y Groesgad Gyntaf, ar ei ffordd i Jeriwsalem. Cafodd ei ailfeddianu gan Tancred, Tywysog Galilea yn 1110. Rhoddodd y cownt Raymond II o Dripoli y castell i Farchogion yr Ysbyty (yr Ysbytywyr) yn 1144.

 
Y gwaith adeiladu, 1170–1200

Aethai'r Ysbytywyr ati i ailadeiladu'r castell yn sylweddol gan ei droi yn amddiffynfa arbennig, castell mwyaf y Croesgadwyr yn y Dwyrain Canol. Ychwanegasant fur allanol â thrwch o 3 meter gyda saith o dyrrau gwarchod anferth â muriau 8-10 meter o drwch, gan greu felly castell consentrig clasurol. Defnyddiai Meistr Mawr yr Ysbytywyr un o'r tyrau hynny fel ei bencadlys. Yn y 12g ychwanegwyd clawdd anferth llawn o ddŵr a groesid gan bont godi yn arwain i byrth y postern.

Bu bron i'r castell syrthio i Saladin yn 1188 ar ôl bod ym meddiant y Croesgadwyr am brin 70 mlynedd. Daliwyd y castellan, ceidwad y castell, ac fe'i gorfodwyd i orchymyn i'r amddiffynwyr agor y porth ac ildio. Dywedodd hynny yn Arabeg ond yna ychwanegodd yn Ffrangeg orchymyn iddyn nhw ddal y castell i'r dyn olaf.

Yn ystod y pumed Croesgad ymwelodd Andrew II o Hwngari â'r castell ac atgyfnerthodd y muriau allanol yn 1217. Fe'i cipiwyd gan Baibars ar Ebrill 8, 1271, trwy ystryw gan ddweud fod Comte Tripoli wedi gorchymyn i'r amddiffynwyr ildio. Atggyfnethodd Baibars y castell a'i defnyddio fel canolfan ar gyfer ymosod ar Dripoli. Troes gapel y marchogion yn fosg. Tyfodd dref garsiwn sylweddol yn y castell. Cafodd ei ddefnyddio gan y Mameluks yn ddiweddarach i ymosod ar Acre yn 1291.

Mae'r castell heddiw yn Safle Treftadaeth y Byd.