Tancred
Croesgadwr o Normaniad a Thywysog Galilea oedd Tancred (c.1078 - 1112). Arweiniodd y Groesgad Gyntaf yn y Lefant.
Tancred | |
---|---|
Ganwyd | 1072, c. 1075 yr Eidal |
Bu farw | 12 Rhagfyr 1112 Antiochia |
Galwedigaeth | marchog |
Swydd | regent of the Principality of Antioch, regent of the Principality of Antioch |
Tad | Odo the Good Marquis |
Mam | Emma of Hauteville |
Priod | Cecile of France |
Llinach | Hauteville family |
Ei hanes
golyguCymerai ran flaenllaw yng ngwarchae Antioch a chwncwest Jeriwsalem yn 1099.
Am gyfnod bu'n Regent Antioch (1101 - 1103; 1104-1112) ar ran Bohemond I, Tywysog Antioch.
Yn 1110 ail-gipiodd castell strategol Krak des Chevaliers (yng ngorllewin Syria heddiw).
Llên
golyguCeir portread cofiadwy a dylanwadol o Dancred yn arwrgerdd fawr Torquato Tasso, Gerusalemme liberata (1575), lle y'i portreadir fel y Croesgadwr sifalriaidd delfrydol.
Ysgrifennwyd bywgraffiad Tancred yn yr iaith Ladin gan Ralph o Caen, a fu'n llygad-dyst i yrfa ei arwr ym Mhalesteina gan wasanaethu dano fo a Bohemund.
Mae carwriaeth Tancred a'r rhyfelferch Fwslemaidd Clorinda yn cael ei bortreadu mewn sawl opera a phaentiad.
Darllen pellach
golygu- David S. Bachrach (cyf.), Ralph of Caen: Life of Tancred (2005)
- Robert Lawrence Nicholson, Tancred: A Study of His Career and Work (AMS Press, 1978)
- Peters, Edward (gol.), The First Crusade: The Chronicle of Fulcher of Chartres and Other Source Materials (Philadelphia: University of Pennsylvania Press, 1998)