Llanllieni

tref yn Swydd Henffordd, Lloegr
(Ailgyfeiriad o Leominster)

Tref hanesyddol a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llanllieni (Saesneg: Leominster).[1] Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Henffordd i'r de a Llwydlo i'r gogledd, ar groesffordd ffyrdd yr A49 a'r A44. Y dref fwyaf yn Swydd Henffordd ydy Llanllieni: yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil Llanllieni boblogaeth o 11,691.[2]

Llanllieni
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.23°N 2.73°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000800 Edit this on Wikidata
Cod OSSO496591 Edit this on Wikidata
Cod postHR6 Edit this on Wikidata
Map
Tafarn The Three Horseshoes, Llanllieni, sy'n nodweddiadol o nifer o'r hen adeiladau sy'n goroesi yn y dref

Saif y dref mewn dyffryn ar lan Afon Llugwy. Am ganrifoedd bu'n ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân gyda llawer o gynnyrch gwlân canolbarth Cymru, o'r 13g ymlaen, yn mynd yno i gael ei brosesu. Mae'r wlad o gwmpas yn enwog am ei berllanau afalau seidr. Ceir nifer o dai hanesyddol yn y dref gan gynnwys Eglwys y Priordy, adeilad Normanaidd sy'n dyddio i ddechrau'r 12g.

Hanes golygu

Yn ôl cofnod yng Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, arweiniodd Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd, gyrch ar Lanllieni yn haf 1052 a arweiniodd at Frwydr Llanllieni, rhwng y Cymry a byddin o Saeson a Normaniaid. Cafodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol.

Chwech milltir i'r gogledd-orllewin o'r dref ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror 1461, un o'r brwydrau pwysicaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Collodd y Lancastriaid y dydd a ffoes Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur yn ôl i Sir Benfro ac i alltudiaeth yn Llydaw.

Gefeilldrefi golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 8 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 11 Gorffennaf 2022

Dolenni allanol golygu