Leslie Patrick Abercrombie
Roedd Syr Leslie Patrick Abercrombie (6 Mehefin 1879 – 23 Mawrth 1957) yn gynllunydd tref Prydeinig ac yn bensaer, sydd fwyaf adnabyddus am ei gynlluniau i ddatblygu Llundain wedi’r Ail Ryfel Byd, The Greater London Plan[1].
Leslie Patrick Abercrombie | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1879 Ashton upon Mersey |
Bu farw | 23 Mawrth 1957 Aston Tirrold |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynlluniwr trefol, bardd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Marchog Faglor |
Ganwyd yn Ashton-upon-Mersey, derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Lerpwl, lle daeth yn athro dylunio dinesig rhwng 1915 a 1935. Yna symudodd i Goleg y Brifysgol, Llundain, lle bu'n athro cynllunio tref o 1935 i 1946. Enillodd gystadleuaeth ym 1913 am ailgynllunio canol ddinas Dulyn ac fe ysgrifennodd y gwerslyfr safonol Town and Country Planning (1933). Ehangwyd ei gynllun cyntaf i ddatblygu Llundain, sef The County of London Plan (gyda JH Forshaw, 1943), ym 1944, gyda chymorth tîm o arbenigwyr, i the Greater London Plan, a oedd yn berthnasol i gynllunio cludiant, dosbarthiad poblogaeth, diwydiant, gwregys gwyrdd, a mwynderau eraill Llundain Fwyaf. Paratôdd gynlluniau ar gyfer trefi a rhanbarthau eraill yn y DU, gan gynnwys Caeredin, Plymouth, Kingston upon Hull, Caerfaddon, Bryste, Sheffield, Bournemouth, a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1945.
Ef oedd pensaer adeiladau Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (Prifysgol Glyndŵr bellach), yn Wrecsam.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)