Licia Albanese
Soprano operatig o'r Unol Daleithiau a aned yn yr Eidal oedd Licia Albanese (22 Gorffennaf 1909[1] - 15 Awst 2014). Roedd hi'n nodedig am ei phortreadau o arwresau telynegol Verdi a Puccini. Roedd Albanese yn artist blaenllaw gyda'r Opera Metropolitan rhwng 1940 a 1966. Gwnaeth lawer o recordiadau hefyd[2] ac roedd yn gadeirydd yr elusen The Licia Albanese-Puccini Foundation, sy'n gweithio i gynorthwyo artistiaid a chantorion ifanc.
Licia Albanese | |
---|---|
Albanese fel Cio-Cio-San ym Madama Butterfly gan Puccini | |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1909, 23 Gorffennaf 1909 Torre a Mare |
Bu farw | 15 Awst 2014 o clefyd Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal UDA |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | soprano |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Medaliwn Handel, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Bywyd a gyrfa
golyguGanwyd Felicia Albanese ym 1909 yn Torre Pelosa, (rhanbarth o Noicattaro, yr Eidal), a daeth wedyn yn rhan o Bari (prif dref rhanbarth Apulia ).[3][4] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf answyddogol ym Milan ym 1934, pan lenwodd i mewn dros soprano arall ym Madama Butterfly gan Puccini, y rôl y byddai'n cael ei chofio'n bennaf amdano. Dros 40 mlynedd, canodd fwy na 300 o berfformiadau o Cio-Cio-San. Cafodd ei chanmol am lawer o'i rolau, gan gynnwys Mimì (La bohème gan Giacomo Puccini), Violetta (La traviata gan Giuseppe Verdi) Liù (Turandot gan Giacomo Puccini) a rôl y teitl yn Manon Lescaut (hefyd gan Puccini). Er hynny ei phortread o'r geisha sydd wedi parhau i fod yn fwyaf adnabyddus. Dechreuodd ei chysylltiad â'r gwaith hwnnw yn gynnar gyda'i hathro, Giuseppina Baldassare-Tedeschi, cyfoeswr i'r cyfansoddwr, ac esboniwr pwysig o rôl y teitl yn y genhedlaeth flaenorol.
Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pryd y gwnaeth ei ymddangosiad ffurfiol cyntaf. Roedd naill ai yn yr un flwyddyn (1934) yn y Teatro Municipale yn Bari, yn canu yn La bohème, neu yn Parma, neu ym Milan ym 1935 yn Madama Butterfly. Erbyn diwedd y flwyddyn honno, roedd hi wedi canu yn La Scala fel Lauretta yn Gianni Schicchi. Buan iawn bu iddi lwyddiant mawr ledled y byd, yn enwedig am ei pherfformiadau yn Carmen, L'amico Fritz a Madama Butterfly yn yr Eidal, Ffrainc a Lloegr.
Gwnaeth Albanese ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan ar 9 Chwefror, 1940, yn y cyntaf o 72 perfformiad fel Madama Butterfly yn Hen Dŷ'r Opera Metropolitan. Gan fod plot Madama Butterfly yn ymwneud â pherthynas swyddog ym myddin yr Unol Daleithiau â merch o Japan gwaharddwyd perfformio'r gwaith yn y wlad wedi ymosodiad Pearl Harbor ar 7 Rhagfyr, 1941 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Er hynny roedd llwyddiant Albanese yn y rôl yn achos iddi berfformio yn y Met am 26 tymor, gan berfformio cyfanswm o 427 perfformiad o 17 rôl mewn 16 opera. Gadawodd y cwmni ym 1966 mewn anghydfod gyda'r Rheolwr Cyffredinol Syr Rudolf Bing, heb ffarwel fawr. Ar ôl perfformio mewn pedwar cynhyrchiad yn ystod 1965/66, roedd hi wedi'i hamserlennu ar gyfer un perfformiad yn unig y tymor nesaf. Dychwelodd ei chontract heb ei arwyddo.
Gwahoddodd Arturo Toscanini Albanese i ymuno â’i ddarllediadau o berfformiadau cyngerdd o La bohème a La traviata gyda Cherddorfa Symffoni NBC yn Stiwdio 8H NBC ym 1946. Cyhoeddwyd y ddau berfformiad yn ddiweddarach ar LP a CD gan RCA Victor.[5]
Ym 1959, canodd Albanese i filoedd o wrandawyr radio mewn cydweithrediad ag Alfredo Antonini, Richard Tucker ac aelodau Ffilharmonig Efrog Newydd yn ystod y darllediadau poblogaidd "Noson Eidalaidd" o Stadiwm Lewisohn yn Ninas Efrog Newydd. Cafodd hi a'i chydweithwyr eu harddangos mewn detholiadau o operâu gan Giacomo Puccini gan gynnwys: Tosca, La bohème, Turandot, Manon Lescaut a Madama Butterfly.[6]
Roedd hi hefyd yn un o brif berfformwyr Opera San Francisco lle bu’n canu rhwng 1941 a 1961, gan berfformio 22 rôl mewn 120 o berfformiadau dros 20 tymor, gan aros yn rhannol oherwydd ei hedmygedd o’i chyfarwyddwr, Gaetano Merola. Trwy gydol ei gyrfa, parhaodd i berfformio'n eang mewn datganiad, cyngerdd ac opera, fe'i clywyd ledled y wlad; cymerodd ran mewn cyngherddau budd, cyngherddau difyrru milwyr, cafodd ei sioe radio wythnosol ei hun, roedd yn westai ar ddarllediadau a thelediadau eraill, ac yn recordio'n aml.
Aeth Albanese i San Francisco yn ystod haf 1972 ar gyfer y cyngerdd gala arbennig yn y Sigmund Stern Recreation Grove i ddathlu hanner canmlwyddiant Opera San Francisco. Gan ymuno â nifer o gydweithwyr a oedd wedi canu gyda’r cwmni, canodd Albanese y ddeuawd o Madama Butterfly gyda’r tenor Frederick Jagel, yng nghwmni Cerddorfa Opera San Francisco dan arweiniad y cyfarwyddwr Kurt Herbert Adler.
Hyd yn oed ar ôl gyrfa yn ymestyn dros saith degawd, parhaodd Albanese i berfformio'n achlysurol. Ar ôl clywed hi'n canu anthem genedlaethol UDA yn ystod agoriad yn y Met, rhoddodd Stephen Sondheim a Thomas Z. Shepard rôl y diva opereta Heidi Schiller yn y sioe gerdd Follies yn yr Avery Fisher Hall ym 1985. Yn ystod tymor gwanwyn 1987 y Theatre Under the Stars yn Houston, Texas, serenodd Albanese mewn adfywiad llwyfan o Follies, a oedd yn llwyddiant mawr.
Bu farw Albanese ar 15 Awst, 2014, yn 105 oed yn ei chartref ym Manhattan.[7]
Recordiadau
golyguYmddangosodd Albanese yn y telediad byw cyntaf un o Otello gan Verdi yr Opera Metropolitan, gyferbyn â Ramón Vinay a Leonard Warren, dan arweiniad Fritz Busch. Roedd yn un o'r genhedlaeth gyntaf o gantorion opera i ymddangos yn eang mewn recordiadau ac ar y radio, mae ei pherfformiadau, sydd bellach yn ailymddangos ar gryno ddisg a DVD, yn tystio yn barhaol i'w galluoedd.
Roedd Albanese yn recordio yn bennaf ar gyfer RCA Victor. Ymhlith ei recordiadau mae Carmen Bizet o dan gyfarwyddyd Fritz Reiner, gyda Risë Stevens a Jan Peerce (1951) a Manon Lescaut gan Puccini gyda Jussi Björling a Robert Merrill, dan arweiniad Jonel Perlea (1954). Ar gyfer recordiad 1951 a arweiniwyd gan Leopold Stokowski o olygfa llythyr Tatiana yn Eugene Onegin gan Tchaikovsky, rhan nad oedd hi erioed wedi ei chanu o'r blaen, dysgodd Rwsieg yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Anrhydeddau
golyguDaeth Albanese yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ym 1945. Ar Hydref 5, 1995, cyflwynodd yr Arlywydd Bill Clinton Fedal Anrhydedd Genedlaethol y Celfyddydau iddi.
Derbyniodd wobrau a graddau er anrhydedd gan Goleg Marymount Manhattan, Coleg Athrawon Talaith Montclair, Coleg Sant Pedr, New Jersey, Prifysgol Seton Hall, Prifysgol De Florida, Prifysgol Fairfield, Coleg Siena, Coleg Caldwell, a Phrifysgol Fairleigh Dickinson.
Dyfarnwyd iddi Fedal Handel, yr anrhydedd swyddogol uchaf a roddir gan Ddinas Efrog Newydd i unigolion am eu cyfraniadau i fywyd diwylliannol y ddinas, gan Rudolph Giuliani yn 2000.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae ei deiseb dros naturoli'r UD yn nodi Gorffennaf 22; Ysgrif goffa 'The New York Times' '' (M. Fox) Gorffennaf 23; mae rhai eraill yn nodi Gorffennaf 24
- ↑ (2012). Albanese, Licia. yn Kennedy, J., Kennedy, M., & Rutherford-Johnson, T. (Gol.), The Oxford Dictionary of Music. : Oxford University Press. adalwyd drwy fynediad llyfrgelloedd cyhoeddus 26 Chwefror 2021
- ↑ Petition for Naturalization: Licia Albanese Gimma
- ↑ Am flynyddoedd cyn ei marwolaeth bu nifer o ffynonellau yn rhoi 1913 fel blwyddyn ei geni er enghraifft -Licia Albanese obituary by Alan Blyth, The Guardian, 19 August 2014
- ↑ Bernheimer, M. (2008). Albanese, Licia. In The Grove Book of Opera Singers. : Oxford University Press. adalwyd drwy fynediad llyfrgelloedd cyhoeddus 26 Chwefror 2021
- ↑ Licia Albanese, Alfredo Antonini, Richard Tucker, performing at Lewisohn Stadium on wqxr.org
- ↑ "Licia Albanese, Exalted Soprano, Is Dead at 105" by Margalit Fox, The New York Times, August 16, 2014
- ↑ Mayor Giuliani presents Handel Medallion to Licia Albanese and Roberta Peters (press release), November 20, 2000