Lisa Rogers

actores a aned yn 1971

Cyflwynydd teledu Cymreig yw Lisa Clare Mae Emily Rogers (ganwyd 7 Medi 1971). Mae hi wedi ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, theatr a radio.

Lisa Rogers
Ganwyd7 Medi 1971 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Career

golygu

Bywyd cynnar

golygu

Tra yn yr ysgol cymerodd swyddi mewn ffatri siocled ac fel ffariwr ac pan oedd yn astudio drama ym Mhrifysgol Loughborough, gweithiodd fel mamaeth a rheolwr groto Siôn Corn .[1]

Teledu

golygu

Cychwynnodd Rogers ei gyrfa teledu y tu ôl i'r llenni yn gweithio fel ymchwilydd ar raglenni, gan gynnwys sioe Johnny Vaughan The Fall Guy, The Girlie Show, Absolutely Animals a Light Lunch gyda'i chyd-ymchwilydd Dermot O'Leary.

Pan yn gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol ond ddim eisiau colli Cwpan y Byd, awgrymodd ffrind ei bod yn mynd am glyweliad ar gyfer y sioe pêl-droed Under the Moon ar Channel 4.[1] Ymddangodd gyntaf ar The Big Breakfast ar Channel 4 ym mis Mehefin 2000, pan gyflwynodd yr eitem "Find Me a Weather Presenter". Arweiniodd hyn at rōl achlysurol, a 'r cyfle i gyd-gyflwyno'n ddiweddarach, cyn i'r sioe ddod i ben ym mis Mawrth 2002. Roedd hi hefyd yn gyflwynydd y sioe deledu realiti The Block. Roedd Rogers yn gwisgo clustdlysau cylchdro mawr yn ystod y cyfnod hwn, rhywbeth a ddaeth yn rjam o'i delwedd. Chwaraeodd gymeriad Tanya yn y gyfres fer o 2000, Lock, Stock..., yn deillio o'r ffilm Lock, Stock and Two Smoking Barrels.

O 2002 i 2008, cyd-gyflwynodd Rogers y sioe heriau peirianneg, Scrapheap Challenge ar Channel 4 ochr yn ochr â Robert Llewellyn. Hyd yma, Rogers yw ail gyflwynydd sefydlog hiraf y sioe, ar ôl Llewellyn. Hefyd, cyflwynodd y ddau y sgîl-sioeau The Scrappy Races o 2003 i 2005. Yn 2003, cyflwynodd Rogers y gyfres ddogfen Mistresses ar ITV,[2] ac ymddangosodd fel panelydd rheolaidd ar Loose Women.

O 2008, gwelwyd Rogers fel cyflwynydd Sunshine ar gyfer Channel 4, ac fel cyflwynydd rheolaidd y raglen foduro Vroom Vroom ar Sky One.

Ym mis Awst 2008, cychwynodd swydd fel cyflwynydd rhaglen ddogfen a ddatblygodd i fod yn draethawd am lawdriniaethau plastig genidol, The Perfect Vagina,[3][4] gyda'i statws wedi ei newid fel "Awdur" yn hytrach na dim ond "Cyflwynydd". Yn 2009, ymunodd â Llewellyn am bennod o'i gyfres gyfweliad ar y we, sef Carpool.

Roedd Rogers hefyd yn un o wyth enwogion a ddewiswyd i gymryd rhan mewn wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg mewn gwersyll moethus eco-gyfeillgar yn Sir Benfro yn y gyfres cariad @ iaith a ddangoswyd ar S4C ym mis Mai 2012.

Bywyd personol

golygu

Daw teulu Rogers o Drellech ger Trefynwy. Cafodd berthynas amlwg â Ralf Little, cyn gwahanu yn 2002 ar ôl iddo fod yn dreisgar tuag ati. Yn 2003, cychwynodd berthynas â drymiwr yStereophonics, Stuart Cable.[2] Roeddent yn gweld ei gilydd ar yr adeg y cafodd ei ddiswyddo o'r grŵp.[5] Ar hyn o bryd mae hi'n byw yn Sir Fynwy, gyda'i dwy merch.[6] Roedd yn feichiog wrth gyflwyno cyfres 2007 o Scrapheap.[7]

Ymddangosiadau teledu

golygu
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011 Scrum V Cyd-gyflwynydd 2011
2010 Welsh Rugby in the Noughties [8] Cyflwynydd 2010
2009 Sport Wales [9] Cyflwynydd 2009–
2008 The Perfect Vagina Cyflwynydd 2008
2008 The Wright Stuff Panelydd Gwadd 2008 (1 pennod)
2006 Vroom Vroom Cyflwynydd 2006–2007 (2 bennod)
2006 Brainiac's Test Tube Baby Gwestai 2006 (1 pennod)
2006 Scrapheap Challenge: Scrappy Races Rally Cyd-gyflwynydd 2006 (1 cyfres)
2006 Showbiz Poker Cyflwynydd
2006 Holiday Reporter 2006 (1 pennod)
2004 The Block Cyflwynydd 2004 (1 cyfres)
2003 Loose Women Panelist 2003 (6 pennod)
2003 Scrapheap Challenge: The Scrappy Races Cyflwynydd 2003–2005 (cyfres 1 a chyfres 2)
2003 Mistresses[2] Cyflwynydd (9 pennod)
2002 Scrapheap Challenge Cyflwynydd 2002–2008 (cyfres 5 i gyfres 10)
2002 Sport Relief Cyflwynydd 2002
2002 Shooting Stars Panelydd Gwadd 2002 (1 pennod)
2002 Celebrity Addicts Cyflwynydd 2002 (1 cyfres)
2001 People Do the Craziest Things Cyflwynydd 2001 (1 cyfres)
2001 I Love 1980's Gwestai 2001 (4 pennod)
2001 I Love 1990's Gwestai 2001 (1 pennod)
2001 100 Greatest Kids' TV shows Cyflwynydd 2001
2001 A Question of TV Panelydd Gwadd 2001 (1 pennod)
2001 Liquid News Gwestai 2001 (1 pennod)
2001 Never Mind the Buzzcocks Panelydd Gwadd 2001 (1 pennod)
2001 The Big Breakfast Cyflwynydd 2001–2002
2000 It's Only TV...but I Like It Gwestai 2000 (1 pennod)
2000 Grudge Match Cyflwynydd 2000 (1 cyfres)
2000 Exclusive Gwestai 2000 (1 pennod)
2000 Top of the Pops Plus Cyflwynydd 2000 (1 cyfres)
1999 The Games Room (Challenge TV) Cyflwynydd 1999
1999 Slave Cyflwynydd 1999 (1 cyfres)
1999 20th Century Stuff Cyflwynydd 1999 (1 cyfres)
1998 Under the Moon Cyflwynydd 1998 (1 cyfres)
1997 Light Lunch Ymchwilydd 1997

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Just the Job - Take it from me... Josie D'Arby and Lisa Rogers". BBC Online. Cyrchwyd 2011-05-31.
  2. 2.0 2.1 2.2 Mainwaring, Rachel (2003-05-25). "All the fun of the affair!; Saucy Lisa tackles TV mistresses". Wales on Sunday, via the Free Library. Cyrchwyd 2011-05-31.
  3. Rogers, Lisa (15 August 2008). "The quest for the perfect vagina". The Guardian. London: Guardian Media Group.
  4. Lisa Rogers (writer and presenter) (2008-08-17). The Perfect Vagina (TV programme). The G-spot series. London: North One Television. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-16. Cyrchwyd 2011-09-18 – drwy Channel 4.
  5. Stone, Antony (2010-06-07). "Tributes paid to former Stereophonics drummer Stuart Cable". The Independent. London. Cyrchwyd 2010-06-07.
  6. Llewellyn, Robert (2009-05-01). "Carpool: Lisa Rogers". Carpool. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 February 2012. Cyrchwyd 2011-05-30. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Her Sgrapheap , Cyfres 9 Pennod 15: "Welly Wanging", Channel 4 . 2007.
  8. "BBC - BBC One Programmes". BBC Cymru Wales website. BBC One. 2010-04-02. Cyrchwyd 2010-06-07.
  9. "BBC - BBC Two Programmes - Sport Wales 21/05/10". BBC One website. BBC Two. 2010-05-21. Cyrchwyd 2010-06-07.

Dolenni allanol

golygu