Un o'r celfyddydau mwyaf arwyddocaol yn Tsile, ac un o'r prif gyrff llenyddol cenedlaethol sy'n cyfrannu at lên America Ladin, yw llên Tsile. Ysgrifennai'r mwyafrif helaeth o lenorion Tsileaidd drwy gyfrwng yr iaith Sbaeneg.

Y gwaith llenyddol cyntaf o bwys o Tsile yw'r arwrgerdd La Araucana (1569–89), a gyfansoddwyd gan y milwr Sbaenaidd Alonso de Ercilla (1533–94), sy'n traddodi hanes y Mapuche a'u brwydr yn erbyn y goresgynwyr o Ymerodraeth Sbaen. Ystyrir La Araucana yn arwrgerdd genedlaethol Tsile, ac ymhlith barddoniaeth wychaf y Ganrif Euraid (Siglo de Oro) yn niwylliant Sbaen.[1][2] Ymhlith llenorion eraill y cyfnod trefedigaethol, a barodd o ganol yr 16g hyd at gwymp y Gapteiniaeth Gyffredinol yn nechrau'r 19g, oedd nifer o offeiriaid yr Iesuwyr: Diego de Rosales (1601–77), Alonso de Ovalle (1603–51), Manuel Lacunza (1731–1801), a Juan Ignacio Molina (1740–1829), sydd i gyd yn nodedig am weithiau hanesyddol neu grefyddol.

Adeg Rhyfel Annibyniaeth Tsile (1812–26), blodeuai newyddiaduraeth wleidyddol yn Tsile gan ysgrifwyr megis Camilo Henríquez (1769–1825). Yn y 19g bu nifer o ddeallusion yn ymgyrchu dros achos addysg gyhoeddus yn Tsile, nifer ohonynt o wledydd eraill, gan gynnwys y Fenesweliad Andrés Bello (1781–1865), y Sbaenwr José Joaquín de Mora (1783–64), yr Archentwr Domingo Faustino Sarmiento (1811–88) a'r Tsilead José Victorino Lastarria (1817–88). Yn ail hanner y 19g, datblygodd ffurfiau'r nofel a'r ddrama yn Tsile. Ystyrir Alberto Blest Gana (1830–1920) yn dad y nofel Tsileaidd, ac arloeswyd ffuglen ddychanol gan José Joaquín Vallejo (1811–58). Ysgrifennwyd barddoniaeth delynegol gan Salvador Sanfuentes (1817–60), Eusebio Lillo (1826–1910), a Guillermo Blest Gana (1829–1904). Cyflwynwyd modernismo i lên Tsile gan Eduardo de la Barra (1839–1900)

Derbyniwyd Gwobr Lenyddol Nobel gan ddau fardd o Tsile: Gabriela Mistral (1889–1957) yn 1945, a Pablo Neruda (1904–73) yn 1971. Ymhlith beirdd Tsileaidd eraill o nod yn yr 20g mae Vicente Huidobro (1893–1948), awdur y gerdd avant-garde hir Altazor, a Nicanor Parra (1914–2018), arloeswr gwrthfarddoniaeth. Ni chafwyd cymaint o lwyddiant gan ffuglenwyr cyfoes, ac eithrio'r nofelwyr Manuel Rojas (1896–1973) ac Isabel Allende (g. 1942).

Cyfeiriadau golygu

  1. Dawson, Frank G. "Ercilla and La Araucana: Spain and The New World", Journal of Inter-American Studies cyfrol 4, rhif 4 (1962): 563-76. doi:10.2307/165191.
  2. Ruiz, C. Castro. "Chilean Literature", Hispania cyfrol 5, rhif 4 (1922): 197-202. doi:10.2307/330918.