Bryngaer Llanymynech
Mae Bryngaer Llanymynech a'i arwynebedd o 57 hectar[1] yn un o fryngaerau mwyaf gwledydd Prydain ac yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn neu o bosibl i gyfnod cynharach Oes yr Efydd. Mae wedi'i leoli ar gopa Bryn Llanymynech ar Glawdd Offa ger bentref Llanymynech, cymuned Carreghwfa, Powys; cyfeiriad grid SJ26502215 6 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt. Mae'n debygol mai dyma fryngaer mwyaf Cymru.
Math | caer lefal, bryngaer |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7918°N 3.0917°W, 52.791323°N 3.091582°W |
Cod OS | SJ264221 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MG030 |
Disgrifiad
golyguMae cloddio archaeolegol yn 2002 gan Owen yn dangos fod yr anheddau y tu mewn i'r gaer yn dyddio'n ôl i'r 4g C.C.[2]
Cefndir
golyguCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG030.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2010-09-25.
- ↑ "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-17. Cyrchwyd 2010-09-25.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-07-11.