Llenyddiaeth ffuglen drosedd Saesneg
Gellir olrhain llenyddiaeth ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg yn ôl i hanner cyntaf y 19g. Priodolir i'r llenor Americanaidd Edgar Allan Poe ysgrifennu'r stori dditectif gyntaf, "The Murders in the Rue Morgue", ym 1841. Bu ffuglen drosedd gynnar yn gysylltiedig â dirgelwch, genre arall a arloeswyd gan Poe. Ym 1887, cyflwynodd Arthur Conan Doyle un o dditectifs ffuglennol enwocaf y byd, Sherlock Holmes, yn ei nofel A Study in Scarlet. Byddai Doyle yn ysgrifennu nofelau a straeon byrion am anturiaethau Holmes a'i gyfaill John Watson am 50 mlynedd, a daethant yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y cyfresi o straeon a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn The Strand. Rhoddai Doyle bwyslais ar ddull didwythol Holmes o ddatrys dirgelion a chanfod troseddwyr. Ymdrechai nifer o awduron i ddynwared llwyddiant y straeon Sherlock Holmes yn ystod yr Oes Edwardaidd.
Math | ffuglen drosedd, llenyddiaeth ffuglen, llenyddiaeth Saesneg |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Prif bwnc | Trosedd |
Yn y 1920au cychwynnodd "Oes Aur" ffuglen dditectif, y nofel ddirgelwch am lofruddiaeth neu nofel ddatgelu (whodunit), a lewyrchai ym Mhrydain yn bennaf. Blodeuai sawl nofelydd benywaidd yn y cyfnod hyn, gan gynnwys Agatha Christie, Dorothy L. Sayers, Margery Allingham, a Ngaio Marsh, a elwir "Breninesau Trosedd". Datblygodd grefft reolaidd i'r ffuglen hon, gyda phlotiau cymhleth a arweinia at ddiweddglo clyfar a boddhaol, ditectifs craff megis Hercule Poirot a Miss Marple, pwyslais ar gliwiau a phosau fel bo modd i'r darllenydd cael pen llinyn y dirgelwch ei hunan, a diffyg trais. Er gwaethaf pwnc llofruddiaeth, digwydda trwch y stori fel arfer mewn awyrgylch digynnwrf, os nad cysurus, gyda chymeriadau o'r dosbarthiadau canol ac uchaf. Bu'r fath straeon yn hynod o boblogaidd ac enillodd yr awduron hyn lwyddiant aruthrol. Fodd bynnag, trodd nifer o feirniaid a llenorion eraill yn erbyn sicrwydd ac ystrydebau'r genre erbyn diwedd y 1950au, gan arwain at gyfnod o ffuglen drosedd dreisgar, arbrofol, a moesol amwys.
Yn yr Unol Daleithiau, tua'r un cyfnod a'r Oes Aur, blodeuai arddull di-raen a realistig o ffuglen drosedd a elwir hardboiled, gyda chymeriadau gwydn a phresenoldeb trais corfforol, gwaed, rhyw, ac iaith fras. Ditectif yn y ddinas fawr ydy prif gymeriad y stori hardboiled fel rheol, un sydd wedi ei ddadrithio a'i ddiflasu i raddau o ganlyniad i natur ei waith, ac sy'n brwydro'n erbyn llygredigaeth a chamymddwyn ei gyfoedion yn ogystal â gwehilion cymdeithas a throseddwyr proffesiynol. Yn aml byddai'r ditectif ei hun yn troi at gwffio a dihirwch yn ei ymdrech i orfodi'r gyfraith, gan beri dryswch moesol. Ymhlith meistri'r oes hardboiled oedd Dashiell Hammett, Raymond Chandler, James M. Cain, a Mickey Spillane. Is-genre gysylltiedig ydy roman noir, a adroddir o safbwynt dioddefwr, troseddwr, neu un a ddrwgdybir o drosedd, yn hytrach na ditectif.
Yn y 1950au dychwelodd plotiau deallus i ffuglen drosedd, tra'n cadw at naws di-gêl y mudiad o'r blaen, gan esgor ar straeon ingol gyda themâu seicolegol, yn aml yn canolbwyntio ar feddwl a chymhellion y troseddwr ei hun. Esiampl arloesol ydy cyfres Patricia Highsmith o nofelau am y twyllwr a llofrudd Tom Ripley, a gychwynnodd gyda The Talented Mr. Ripley (1955). Yn ddiweddarach ffynnai sawl is-genre, gan gynnwys y nofel gyffro gyfreithiol, sy'n dilyn hynt yr achos llys er enghraifft nofelau John Grisham; y ddrama heddlu, sy'n dilyn dulliau fforensig o archwilio trosedd; y "dirgelwch cartrefol", sy'n dwyn atgof o Oes Aur ffuglen dditectif; a ffuglen drosedd hanesyddol megis The Black Dahlia (1987) gan James Ellroy.
Gwreiddiau'r genre
golyguEr i ambell ffurf lenyddol Saesneg o'r cyfnod modern cynnar, er enghraifft llenyddiaeth dihirod, ymwneud â throseddwyr a thor-cyfraith, datblygodd ffuglen drosedd fodern yn ystod hanner cyntaf y 19g. Priodolir i'r llenor Americanaidd Edgar Allan Poe (1809–49) ysgrifennu'r stori dditectif gyntaf, "The Murders in the Rue Morgue", a gyhoeddwyd yn Graham's Magazine yn Philadelphia ym 1841. Adnabyddir Poe yn bennaf am ei ffuglen arswyd a straeon y macâbr, a fe gyfunai themâu dirgelwch a marwolaeth i greu genre newydd sy'n dilyn y prif gymeriad wrth iddo geisio datgelu llofrudd. Cyflwyna'i gymeriad C. Auguste Dupin, y ditectif ffuglennol cyntaf mewn unrhyw iaith, yn y stori hon. Ymddangosa Dupin mewn dwy stori arall gan Poe: "The Mystery of Marie Rogêt" (1842–43), y stori ddirgelwch gyntaf a seiliwyd ar drosedd go iawn, a "The Purloined Letter" (1844).[1] Cyfeiriodd Poe ei hun at y gweithiau hyn fel "straeon rhesymu" (tales of ratiocination), am i Dupin geisio canfod pwy yw'r troseddwr drwy feddwl yn rhesymegol.
Yng Ngwledydd Prydain, daeth trosedd yn thema ffuglen gyffredin i'r cyhoedd drwy theatr melodrama, a nofelau Newgate (o'r 1820au i'r 1840au) a bortreadai fywydau troseddwyr direidus mewn modd cynhyrfus ac hudolus. Prif arloeswr ffuglen drosedd Lloegr oedd y nofelydd Wilkie Collins (1824–89), a dynnai ar ei hyfforddiant yn y gyfraith wrth ysgrifennu am droseddau a dulliau'r ditectif, gan gynnwys ei ddefnydd o sawl adroddwr i ddangos y stori o wahanol safbwyntiau'r cymeriadau. Sbardunodd ei waith The Woman in White (1860), y nofel ddirgelwch a'r nofel goflyfr gyntaf yn Saesneg, ffasiwn o "ffuglen gynnwrf" yn llên Fictoraidd Lloegr. Ysgrifennodd Collins hefyd y nofel epistolaidd The Moonstone (1868), o ddisgrifir yn aml fel y nofel dditectif gyntaf yn Saesneg, a osodai nifer o gonfensiynau'r genre.[2] Mae eraill wedi galw The Notting Hill Mystery (1862–63) gan Charles Felix—o bosib ffugenw Charles Warren Adams (1883–1903)—yn nofel dditectif gyntaf yr iaith Saesneg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Peter Thoms, "Poe's Dupin and the power of detection" yn The Cambridge Companion to Edgar Allan Poe, golygwyd gan Kevin J. Hayes (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), tt. 133.
- ↑ Nicholas Rance, Wilkie Collins and Other Sensation Novelists: Walking the Moral Hospital (Llundain: Macmillan, 1991), t. 130.