Llewela Davies
Pianydd a chyfansoddwraig oedd Llewela Davies (Chwefror 1871 – 22 Awst[1] 1952) a deithiodd gyda'r gantores Nellie Melba ledled y byd.[2]
Llewela Davies | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1871 Talgarth |
Bu farw | 22 Awst 1952 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, cyfansoddwr |
Magwraeth ac addysg
golyguGanwyd Llewela Tegwedd Davies yn Nhalgarth, ger Aberhonddu, yng Nghanolbarth Cymru.[3] Rhys Davies, ynad heddwch, oedd ei thad.[4][5] Yn 10 oed enillodd fedal a gwobr ariannol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd ysgoloriaeth i fynychu North London Collegiate School for Girls.[6] Mynychodd hefyd y Royal Academy of Music ar ysgoloriaeth John Thomas yn 1887, ac enillodd nifer o wobrau yno am gyfansoddi,[7] gan gynnwys medal y "Worshipful Company of Musicians."[8][9] Cyfeiliodd i'w chyfoeswyr, ei chyd-fyfyrwyr, droeon yn ystod ei arhosiad yno.[10] Cyn hir, graddiodd ym Mhrifysgol Llundain.[11]
Ei phrif hyfforddwr yn yr Academi Frenhinol oedd Walter Macfarren, brawd y cyfansoddwr George Alexander Macfarren a brawd-yng-nghyfraith y gyfansoddwraig Emma Maria Macfarren. Ymlith myfyrwyr nodedig eraill Macfarren roedd Agnes Zimmermann, Dora Bright, a Stewart Macpherson.[12]
Gyrfa
golyguMae'n debyg mai ei pherfformiadau mewyaf gwefreiddiol, yn ôl papurau'r cyfnod, oedd gyda Nellie Melba (llysenw a gafodd oherwydd iddi gael ei geni yn Melbourne) a chyd-deithiodd gyda hi a'i gŵr drwy sawl gwlad a chyfandir gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd. Ar ei hôl hi y galwyd 'Peach Melba'.[13][14] Perfformiodd ddwywaith yn Three Choirs Festivalac fel cyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Perfformiodd hefyd yn y Annual Reid Concert yng Nghaeredin, yn 1899.[15] Fe'i croesawyd mewn eisteddfodau a chyngherddau bychan ledled Cymru, fel gwestai arbennig.[4]
Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Llundain wedi iddi raddio.[11] Ei gwaith mwyaf nodedig ydy: Three Sketches (cerddorfa), pedwarawd llinynol a sonata ar gyfer y fiolin a'r piano.[14]
Bywyd personol
golyguPriododd y cerddor Cymreig Frederic Griffith (weithiau: 'Griffiths') yn 1898,[16][17] a threuliodd y ddau gyfnod yn Llundain wedi hynny. Bu farw ei gŵr yn 1917 a hithau yn 1952, yn Llundain.[15]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1952
- ↑ "Welsh Musicians on Tour" Evening Express (30 Rhagfyr 1897): 3.
- ↑ "Keeping up the National Reputation: A Brilliant Young Welsh Girl Who Has Attracted Attention as a Musician" Chicago Tribune (24 Hydref 1891): 16.
- ↑ 4.0 4.1 "Miss Llewela Davies: Cordial Reception at Llangranog" South Wales Echo (12 Awst 1893): 3.
- ↑ "Death of Mr. Rhys Davies, J. P., Brecon" South Wales Echo (March 18, 1899): 3.
- ↑ Frederic Griffith, ed. Notable Welsh Musicians of Today (F. Goodwen 1896): 122–123.
- ↑ "Miss Llewela Davies" Bruce Herald 24(2516)(October 3, 1893): 3.
- ↑ "Annual Prizes, Female Department" Overture: A Monthly Musical Journal 6(4)(Hydref 1893): 94–95.
- ↑ "A Brilliant Student" Archifwyd 2016-04-16 yn y Peiriant Wayback Cambridge Chronicle (Dydd Calan 1894): 11.
- ↑ "Invitation Students Concert: Saturday, July 1, 1893" and "Fortnightly Concerts," Overture: A Monthly Musical Journal 6(4)(October 1893): 100.
- ↑ 11.0 11.1 "Lady Instrumentalists" Strand Musical Magazine (1895): 91.
- ↑ Walter Macfarren, Memories: An Autobiography (Walter Scott Publishing 1905): 268.
- ↑ "Madame Melba: The Farewell Concert" The Advertiser (17 Tachwedd 1902): 6.
- ↑ 14.0 14.1 Henry Saxe Wyndham and Geoffrey L'Epine, eds., Who's Who in Music: A Biographical Record of Contemporary Musicians (I. Pitman & Sons 1915): 75–76.
- ↑ 15.0 15.1 "Annual Reid Concert 1899" Reid Concerts: Concerts at the University of Edinburgh from 1841
- ↑ "Forthcoming Marriage of Mr. F. Griffiths; Engaged to a Brecon Artiste" South Wales Daily Post (28 Mawrth 1898): 4.
- ↑ "Marriage of Llewela Davis" Scranton Republican (23 Ebrill 1898): 3. via Newspapers.com