Lili'r Wyddfa
Lili'r Wyddfa | |
---|---|
Brwynddail y mynydd yng Nghwm Du'r Arddu, 2016 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Liliales |
Teulu: | Liliaceae |
Genws: | Gagea |
Rhywogaeth: | L. serotina |
Enw deuenwol | |
Lloydia serotina (L.) Rchb. | |
Cyfystyron [1] | |
|
Planhigyn blodeuol lluosflwydd Arctig-Alpaidd a monocotyledon yw Lili'r Wyddfa neu Brwynddail y Mynydd (Cyfenw: Lloydia serotina), sy'n aelod o deulu'r Liliaceae. Lili'r Wyddfa yw'r unig aelod o'r genws Gagea sy'n byw tu allan i ganolbarth Asia. Mae Lili'r Wyddfa yn nodweddiadol o diroedd mynyddig. Yng Ngogledd America fe'i ceir o Alaska hyd New Mexico, ac yn Ewrop yn yr Alpau a Mynyddoedd Carpathia yn ogystal â Chymru. Yr unig le y mae'n tyfu yng ngwledydd Prydain yw ychydig o safleoedd yng ngogledd Eryri; er enghraifft Cwm Idwal. Fe'i ceir hefyd yng nghanol Asia, Siberia, Tsieina, Nepal, Mongolia, Corea a Japan.[1][2] Yng Ngogledd America fe'i gelwir yn common alplily.
Mae ganddo flodau cymharol fawr wedi'u gosod yn sypiau o dri: chwe tepal mewn dau swp, chwe brigeryn ac ofari uwchraddol. Ceir dail hirfain, unigol wedi'u gosod bob yn ail. Esblygodd y rhywogaeth hwn oddeutu 68 miliwn o flynydoedd CP yn ystod yr era Cretasaidd hwyr - Paleogen cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r teulu, mae i'w gael mewn amgylchedd cynnes (neu dymherus), yn enwedig yn Hemisffer y Gogledd.
Ystyrir y gallai cynhesu byd-eang beryglu'r rhywogaeth yn Eryri a cheir cynlluniau i geisio'u traws-blannu i safleoedd yn yr Alban. Daw'r enw Lloydia o enw Edward Lhuyd. Amcangyfrifir fod llai na 100 o fylbiau yng Nghymru. O ran eu genynnau, mae'r math hwn yng Nghymru'n dra gwahanol i weddill y rhywogaeth hwn.[3]
Dros filoedd o flynyddoedd, mae eu lleoliad diarffordd ac anhygyrch wedi eu gwarchod, i raddau helaeth, gan ei wneud hi'n anodd i ddyn neu ddafad eu sathru a'u torri.[4]
Disgrifiad
golyguMae'n blanhigyn anodd ei adnabod pan nad yw'n blodeuo, gan fod y dail yn debyg iawn i laswellt neu frwyn. Daw'n llawer mwy amlwg pan ymddengys y blodau gwynion, o fis Mehefin ymlaen. Mae ganddynt wythienau piws neu goch. Ystyr serotina yw 'blodeuo'n hwyr'.[5][6][7]
Llyfrau Plant
golyguGwelir statws eiconig Lili'r Wyddfa mewn o leiaf un llyfr i blant sef Wendi Wlanog a Lili'r Wyddfa.[8]
Tacsonomeg
golyguArferid credu fod y genws Lloydia gwbwl ar wahân i Gagea, ac fe'i dynodwyd yn rhywogaeth a elwid yn Lloydia serotina.[9] Erbyn hyn, fodd bynnag, (2015) mae'r rhywogaeth Lloydia yn cael eu cynnwys oddi fewn i Gagea.[10][11]
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol Gagea serotina ar Gomin Wicimedia
- Parc Cenedlaethol Eryri: Lili'r Wyddfa[dolen farw]
- Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Kew World Checklist of Selected Plant Families, Gagea serotina'[dolen farw]
- ↑ Biota of North America Program 2014 county distribution map
- ↑ B. Jones, C. Gliddon & J. E. G. Good (2001). "The conservation of variation in geographically peripheral populations: Lloydia serotina (Liliaceae) in Britain". Biological Conservation 101 (2): 147–156. doi:10.1016/S0006-3207(01)00055-6. https://archive.org/details/sim_biological-conservation_2001-10_101_2/page/147.
- ↑ Paul Brown (27 Mawrth 2003). "Global warming threatens Snowdonian plant". Guardian Unlimited.
- ↑ John Bellenden Ker Gawler. 1816. Quarterly Journal of Science and the Arts. Llundain. 1: 180, Gagea serotina
- ↑ Linnaeus, Carl von. 1753. Species Plantarum 1: 294, as Bulbocodium serotinum .
- ↑ Heinrich Gottlieb Ludwig Reichenbach. 1830. Flora Germanica Excursoria 102, as Lloydia serotina
- ↑ (Saesneg) [dolen farw] Wendi Wlanog a Lili'r Wyddfa
- ↑ T. G. Tutin, V. H. Heywood, N. A. Burges, D. M. Moore, D. H. Valentine, S. M. Walters & D. A. Webb, gol. (1980). Flora Europaea. 5. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 25. ISBN 978-0-521-20108-7.CS1 maint: uses editors parameter (link)
- ↑ "Lloydia". World Checklist of Selected Plant Families. Royal Botanic Gardens, Kew. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-26. Cyrchwyd 2014-01-09. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ Flora of China Cyfrol 24, Tudalen 122 洼瓣花 wa ban hua Lloydia serotina (Linnaeus) Reichenbach, Fl. Germ. Excurs. 102. 1830.