Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren
Mae Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren yn llwybr hir sy'n ymestyn o Gynfig ger Porthcawl i Gas-gwent ar y ffin â Lloegr ac sy'n ymuno gyda Llwybr Clawdd Offa. Mae ei hyd yn 156 km o'r naill ben i'r llall.
Math | llwybr troed pell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Hyd | 176 cilometr |
Dyma, efallai'r llwybr mwyaf prysur o'r 8 llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]. Ceir golygfeydd gwych o aber afon Hafren sydd â’r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, sef 49 troedfedd.
Mae'r llwybr yn nadreddu drwy siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. Mae'n cynnwys y trefi a'r dinasoedd canlynol: Y Barri, Bae Caerdydd, Penarth, Casnewydd, Trefynwy a Ccas-gwent.
Is-lwybrau lleol
golyguCeir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
- Llwybr Bae Caerdydd. Mae'r llwybr hwn yn 10 km (6.2 milltir) o hyd ac yn cylchu'r bae mor bell a thref Penarth dros Bont y Werin. Mae llawer o adeiladau hynafol a diddorol yn y cyffiniau gan gynnwys adeiladau'r y Senedd, Canolfan y Mileniwm, yr Eglwys Norwyaidd a St David's Hotel & Spa.
- Taith Blaencwm. 6 milltir ydy'r llwybr hwn sy'n ymestyn i fyny Cwm Rhondda, heibio nifer o raeadrau ac olion diwydiant glofaol y De. Ceir golygfeydd gwych o Benpych a Threherbert a'r dyffryn islaw.
- Llwybr Cas-gwent. Ceir dau lwybr a dau ddewis! Mae'r cyntaf yn amgylchu'r dref ei hun a'r llall o fewn muriau'r dref. Arwyddwyd y ddau lwybr yn glir. Man cychwyn y ddau ydy Canolfan Dwristiaeth y dref a ganfyddir ar lan Afon Gwy.[2]
Gweler hefyd
golygu- Traethau Baner Las Cymru: traeth y Barri
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012
- ↑ "Chepstow Town Council". Town Trail. Cyngor Tref Cas-gwent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-30. Cyrchwyd 13 Awst 2013.