Dafydd y Coed

un o'r Gogynfeirdd diweddar

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Dafydd y Coed (bl. ail hanner y 14g). O ran arddull a mydr mae ei waith yn perthyn i'r Gogynfeirdd ceidwadol yn hytrach na'r Cywyddwyr arloesol.

Dafydd y Coed
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1380 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ychydig iawn a wyddom â sicrwydd am y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Mae'n bosibl ei fod i'w uniaethu â Dafydd, gorwyr Arod (Arawd) ab Owain ap Rhydderch Ddu o Sir Gaerfyrddin, os felly roedd yn perthyn i lwyth Rhys ap Tewdwr, Brenin Deheubarth. Ni wyddom lle oedd yn byw.

Cerddi

golygu

Canodd i noddwyr yn ne a chanolbarth Cymru, yn cynnwys Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron a theulu Gogerddan, Ceredigion a Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan, y bu Llyfr Coch Hergest yn ei feddiant yn ail hanner y 14g; cedwir y testunau cynharaf ar glawr o waith Dafydd y Coed yn y llawysgrif enwog honno. Canodd hefyd am Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, a Rhaeadr Gwy, Powys.

Cedwir deg cerdd gan Ddafydd y Coed, sef tair awdl foliant i noddwyr, dwy gerdd grefyddol a phum cerdd ddychan. Mae cerdd Dafydd i Hopcyn ap Tomas o ddiddordeb mawr i haneswyr llenyddiaeth Gymraeg am ei bod yn rhoi cip i ni ar gynnwys llyfrgell yr uchelwr diwylliedig hwnnw. Roedd ei lyfrau yn cynnwys copïau o'r Lucidarius, Y Greal, llyfrau Cyfraith Hywel a'r Annales Cambriae:

Mynawg Hopcyn, lyn loywglos,
Mur heilddwbl cetgwbl catgis,
Mwnai law, mae yn ei lys,
Eurddar, y Lusidarius,
A'r Greal a'r Yniales,
A grym pob cyfraith a'i gras.[1]

Mae ei ddychan i Raeadr Gwy yn enghraifft dda o'r canu dychan gorchestol sy'n dyfalu sŵn dŵr y rhaeadr. Dyma'r englyn agoriadol:

Rhaeadr oergri cadr ar grwcedau—bach,
Bychin geiniog werthau;
Rhugl ffugl ffagl, magl mwygl refrau,
Rheglwern i gwm uffern gau![2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwaith Dafydd y Coed, cerdd 3.91-6.
  2. Gwaith Dafydd y Coed, cerdd 8.1-4.