Luke Evans

(Ailgyfeiriad o Luke George Evans)

Actor a chanwr o Gymru yw Luke Evans (ganwyd 15 Ebrill 1979).[1]

Luke Evans
GanwydLuke George Evans Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1979 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
Man preswylShoreditch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Canolfan Ddrama Llundain
  • London Studio Centre Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBeauty and the Beast, Pinocchio Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Teen Choice Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lukeevans.uk.com Edit this on Wikidata

Cychwynnodd gyrfa Evans ar y llwyfan, yn perfformio mewn nifer o gynyrchiadau West End Llundain yn cynnwys Rent, Miss Saigon, a Piaf cyn ennill ei ran Hollywood cyntaf yn chwarae rhan Apollo yn ail-gread 2010 Clash of the Titans. Yn dilyn hyn, fe'i castiwyd mewn ffilmiau cyffro ac acsiwn fel Immortals (2011), The Raven (2012), a'r ail-ddychmygiad o The Three Musketeers (2011), lle'r oedd yn chwarae rhan Aramis.

Yn 2013, serennodd Evans fel y prif wrthwynebydd Owen Shaw yn y ffilm fawr Fast & Furious 6, ac fe chwaraeodd Bard the Bowman yn addasiad tri-rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R.Tolkien.[2] Portreadodd y fampir Dracula yn y ffilm am wreiddiau'r stori, Dracula Untold.[3]

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Luke Evans ym Mhont-y-pŵl,[4] a magwyd yn Aberbargoed,[5] yng Nghwm Rhymni, yn unig blentyn i Yvonne a David Evans.[6][7] Magwyd yn un o Dystion Jehofa, ond fe adawodd y grefydd pan adawodd ysgol yn 16 mlwydd oed.[8]

Fe symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 17 mlwydd oed,[9] lle astudiodd o dan oruchwyliaeth Louise Ryan, athrawes ganu brofiadol.[10] Yn 1997 enillodd ysgoloriaeth i'r London Studio Centre yn Kings Cross, London.[11] Fe raddiodd yn 2000.

Rhwng 2000 a 2008 serennodd Evans mewn nifer o gynyrchiadau yn West End Llundain yn cynnwys La Cava, Taboo, Rent, Miss Saigon a Avenue Q ynghyd â nifer o sioeau ymylol yn Llundain a Gŵyl Caeredin.

Yn 2008, cafodd ei ran theatr fwyaf sylweddol wrth chwarae Vincent yn y ddrama Small Change wedi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Peter Gill yn y Donmar Warehouse. Roedd yn rhan bwysig iddo gael ei adnabod gan gyfarwyddwyr ac asiantaethau castio yn yr Unol Daleithiau a fe'i henwebwyd am wobr yr Evening Standard am y newydd-ddyfodiad gorau. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn fe wnaeth ei ail sioe yn y Donmar Warehouse, Piaf, lle'r oedd yn chwarae rhan Yves Montand.

Cafodd Evans ei glyweliad ffilm cyntaf yn dri deg oed. Yn 2009 fe gafodd ei ran ffilm cyntaf yn chwarae'r duw Groegaidd Apollo yn ail-gread Clash of the Titans. Hefyd yn 2010 fe ymddangosodd fel Clive yn y ffilm Sex & Drugs & Rock & Roll, a gyfarwyddwyd gan Matt Whitecross, fel llabwst y Siryf Nottingham yn Robin Hood, wrth ochr Matthew Macfadyen (a fyddai eto yn chwarae wrth ei ochr yn The Three Musketeers), a chwaraeodd y dyn da ei law Andy, yn ffilm y cyfarwyddwr Stephen Frears - Tamara Drewe, wedi seilio ar stribed comig Posy Simmond. Aeth Evans ymlaen i bortreadu DI Craig Stokes yn Blitz (2011), addasiad ffilm o nofel Ken Bruen o'r un enw, lle serennodd gyda Jason Statham a Paddy Considine. Yn gynnar yn 2010, fe saethodd y ffilm annibynnol, Flutter, wedi ei gyfarwyddo gan Giles Borg.

Chwaraeodd Evans ran Mysgedwr Aramis yn fersiwn Paul W. S. Anderson o The Three Musketeers (ffilmiwyd yn 2010 ryddhawyd yn 2011). Fe'i castiwyd mewn prif ran yn epic Groegaidd Tarsem Singh - Immortals (2011), lle'r oedd yn chwarae Brenin y Duwiau, Zeus. Ar ddiwedd 2010, gymerodd ran gyferbyn John Cusack yn ffilm James McTeigue -The Raven, gan gymryd lle Jeremy Renner. Yn y ffilm, a ryddhawyd yn 2012, sydd wedi ei osod yn Baltimore yng nghanol yr 19g, roedd Evans yn chwarae Ditectif Emmett Fields, sy'n ymchwilio i gyfres o lofruddiaethau ochr yn ochr â pherfformiad Cusack o Edgar Allan Poe.[12] Fe saethwyd y ffilm yn Budapest a Serbia yn Nhachwedd 2010. Yn 2011, fe saethodd No One Lives, ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Ryuhei Kitamura, yn New Orleans, a dechreuodd ffilmio rhan yn addasiad tri rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R. Tolkien, yn chwarae rhan Bard the Bowman.[2]

Yn 2013, fe wnaeth Evans chwarae rhan Owen Shaw yn Furious 6, ac yn 2014, chwaraeodd Dracula yn y ffilm Dracula Untold.[13][14][15]

Castiwyd Evans fel Eric Draven yn ail-ddychmygiad o ffilm The Crow. Yn Ionawr 2015, fe gyhoeddwyd ei fod wedi gadael y prosiect yn swyddogol i ganolbwyntio ar brosiectau eraill.[16] Yn Mehefin 2014, ymunodd Evans gyda chast y ffilm High-Rise gyda Tom Hiddleston a Jeremy Irons.[17] Yn Hydref 2014, cyhoeddwyd ei fod wedi arwyddo i serennu yn Free Fire, i'w gyfarwyddo gan Ben Wheatley ac yn cyd-serennu Cillian Murphy, Olivia Wilde a Armie Hammer.[18] Yn Mawrth 2015, cyhoeddwyd ei fod am chwarae rhan y dihiryn Gaston yn ail-gread Disney o Beauty and the Beast, sy'n cyd-serennu Emma Watson.[19]

Bywyd personol

golygu

Mae Evans yn agored hoyw. Mewn cyfweliad o 2002, dywedodd, "Roedd pawb yn fy nabod i fel dyn hoyw, ac yn fy mywyd yn Llundain wnes i byth trio ei guddio," a thrwy fod yn agored ni fyddai ganddo "y sgerbwd hynny yn y cwpwrdd gallen nhw ei ddatgelu".[20] Yn 2004, dywedodd nad oedd ei yrfa actio wedi dioddef o fod allan.[21] Yn 2014, fe wnaeth Evans gydnabod y pwysigrwydd o farchnadwyedd ac er nad yw'n cuddio ei rywioldeb, mae'n gyndyn o'i drafod gyda'r cyfryngau.[22] Mae cyfryngau Sbaen wedi adrodd ei fod mewn perthynas gyda'r model Jon Kortajarena.[23][24][25]

Yn 2015, enwyd Evans gan gylchgrawn GQ fel un o'r 50 dyn sy'n gwisgo orau.[26]

Ffilmyddiaeth

golygu
 
Evans in January 2014
Blwyddyn Ffilm Rhan Nodiadau
2002 Taboo Billy Fideo
2009 Don't Press Benjamin's Buttons Tad Benjamin Ffilm fer
2010 Cowards and Monsters Paul Ffilm Fer
2010 Sex & Drugs & Rock & Roll Clive Richards
2010 Clash of the Titans Apollo
2010 Robin Hood Llabwst y Siryf
2010 Tamara Drewe Andy Cobb
2011 Blitz DI Craig Stokes
2011 The Three Musketeers Aramis
2011 Immortals Zeus
2011 Flutter Adrian
2012 Ashes Crewcut
2012 The Raven Inspector Emmett Fields
2012 No One Lives Gyrrwr
2012 The Hobbit: An Unexpected Journey Girion, Lord of Dale Fersiwn Estynedig yn unig
2013 Fast & Furious 6 Owen Shaw[27]
2013 The Hobbit: The Desolation of Smaug Bard / Girion, Lord of Dale
2013 The Great Train Robbery Bruce Reynolds Cyfres deledu: 2 bennod
2014 Dracula Untold Vlad III Țepeș / Dracula
2014 The Hobbit: The Battle of the Five Armies Bard
2015 Furious 7 Owen Shaw Cameo
2015 High-Rise Richard Wilder
2016 Message from the King Wentworth Yn ôl-gynhyrchu
2016 The Girl on the Train Scott Yn ffilmio
2017 Beauty and the Beast Gaston Yn ôl-gynhyrchu
2019 StarDog and TurboCat Felix

Gwobrau ac enwebiadau

golygu
Blwyddyn Gwobr Categori Canlyniad Gwaith
2014 Gŵyl Deledu Monte-Carlo Actor Eithriadol mewn Cyfres Enwebwyd The Great Train Robbery
2014 Gŵyl Ffilm Acapulco Black Cast Ensemble Gorau Enwebwyd Fast & Furious 6
2015 British Independent Film Awards Actor Cynorthwyol Gorau Enwebwyd High-Rise

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Luke Evans. BBC. Adalwyd ar 1 Ionawr 2014.
  2. 2.0 2.1 Fleming, Mike (16 June 2011). "Luke Evans To Play Bard in 'The Hobbit'". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 16 June 2011.
  3. Justin Vactor. "Luke". Screen Rant. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 1 March 2015.
  4. "Pontypool-born Luke Evans hopes to be new Bourne star". walesonline. 9 April 2011. Cyrchwyd 1 March 2015.
  5. "Evans finds himself among the stars". walesonline. 8 September 2010. Cyrchwyd 1 March 2015.
  6. "Aberbargoed actor Luke Evans' success in Hollywood". Wales Online. 3 June 2010. Cyrchwyd 25 July 2013.
  7. Rachel Mainwaring (30 May 2010). "Welsh actor Luke Evans is hot Hollywood property". Wales Online. Cyrchwyd 25 July 2013.
  8. "Hobbit star Luke Evans swaps the valleys for the Shire". The Guardian. 7 December 2013. Cyrchwyd 11 December 2013.
  9. "Luke Evans Interview TAMARA DREWE". Collider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 1 March 2015.
  10. "Welsh actor Luke Evans is hot Hollywood property". walesonline. 29 May 2010. Cyrchwyd 1 March 2015.
  11. Mo-Net s.r.l. Milano-Firenze. "Luke Evans". mymovies.it. Cyrchwyd 1 March 2015.
  12. Leins, Jeff. "Luke Evans, Alice Eve Join 'The Raven'". News in Film. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-09. Cyrchwyd 13 October 2010.
  13. Mike Fleming Jr. "'The Crow' Reboot Flies With Luke Evans - Deadline". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Cyrchwyd 1 March 2015.
  14. The Deadline Team. "Universal Dates 'Dracula' Origin Pic For August 8, 2014 - Deadline". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-19. Cyrchwyd 1 March 2015.
  15. Pamela McClintock. "Title Change: 'Dracula' Renamed 'Dracula Untold'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 1 March 2015.
  16. "Luke Evans Officially Exits 'The Crow' Reboot; Relativity Seeking New Star". TheWrap. Cyrchwyd 1 March 2015.
  17. Oliver Lyttelton (13 June 2014). "'The Hobbit' Star Luke Evans Joins Tom Hiddleston in Ben Wheatley's 'High Rise'". Indie Wire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-16. Cyrchwyd 16 June 2014.
  18. Leo Barraclough. "Luke Evans to Star in Ben Wheatley's 'Free Fire'". Variety. Cyrchwyd 1 March 2015.
  19. "Luke Evans To Star Opposite Emma Watson In Disney's Beauty And The Beast".
  20. Barclay, Paris (3 September 2002). "Breaking the Taboo". The Advocate. t. 55. Cyrchwyd 4 August 2011. available online
  21. "Luke Goes Hardcore" (PDF). QX Magazine. July 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-09-27. Cyrchwyd 8 July 2011.
  22. "Luke Evans: Slaying Them Softly". Women's Wear Daily. October 9, 2014. Cyrchwyd November 28, 2014.
  23. "Luke Evans, Jon Kortajarena's vampire" (yn Spanish). dparejas. October 2, 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  24. "Jon Kortajarena introduces his boyfriend Luke Evans to his mother" (yn Spanish). El Mundo. December 20, 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  25. "Jon Kortajarena: sus 30 'buenorros' años en fotos" (yn Spanish). El Mundo. May 19, 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  26. "50 Best Dressed Men in Britain 2015". GQ. 5 Jan 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-07. Cyrchwyd 2015-12-14.
  27. "Luke Evans Joins Sixth 'Fast & Furious' Film". hollywoodreporter.com. Cyrchwyd 25 July 2013.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.