Avenue Q (sioe gerdd)
Sioe gerdd 2003 ydy Avenue Q a gyfansoddwyd gan Robert Lopez a Jeff Marx, ac a gyfarwyddwyd gan Jason Moore. Ysgrifennwyd y llyfr gan Jeff Whitty. Yn wreiddiol, cynhyrchwyd ac agorwyd y sioe yn Theatr y Winwydden, oddi ar Broadway ym mis Mawrth 2003. Symudodd y cynhyrchiad i Broadway ym mis Gorffennaf 2003 ac enillodd nifer o Wobrau Tony, gan gynnwys gwobr am y Sioe Gerdd Orau. Mae Avenue Q yn parhau i gael ei pherfformio ar Broadway gan wneud y sioe y 23ain sioe gerdd hiraf yn hanes Broadway. Yn 2005, aeth y sioe i Las Vegas a gwelwyd nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys yn West End Llundain. Dechreuodd taith genedlaethol o amgylch yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2007 a daeth i ben ym mis Mai 2009.
Avenue Q | |
Logo Avenue Q | |
---|---|
Cerddoriaeth | Robert Lopez Jeff Marx |
Geiriau | Robert Lopez Jeff Marx |
Llyfr | Jeff Whitty |
Cynhyrchiad | 2003 Broadway 2005 Las Vegas 2006 West End 2007 Stockholm 2007 Helsinki 2007 Taith Gogledd America 2007 Israel 2008 Royal Tunbridge Wells 2008 Dinas Mecsico 2008 Singapôr 2009 Melbourne 2009 Brasil 2009 Cincinnati 2009 Budapest 2009 Istanbul |
Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Orau |
Mae'r sioe ei hun yn drwm o dan ddylanwad (ac ar arddull) y rhaglen deledu Sesame Street. Mae'r mwyafrif o gymeriadau'n bypedau (sy'n cael eu gweithredu gan actorion ar lwyfan), ac mae'r set yn darlunio nifer o gartrefi mewn ardal difreintiedig yn un o fwrdeisdrefi allanol Dinas Efrog Newydd. Mae'r cymeriadau byw a'r pypedau i'll dau yn canu, a dangosir clipiau fideo animeiddiedig fel rhan o'r stori.
Gellir gweld yn syth fod nifer o'r cymeriadau yn barodiau o gymeriadau traddodiadol "Sesame Street"; er enghraifft, mae'r ddau gymeriad sy'n rhannu ystafell Rod a Nicky yn fersiynnau o gymeriadau Bert ac Ernie o "Sesame Street", tra bod Trekkie Monster yn seiliedig ar Cookie Monster. Serch hynny, mae'r cymeriadau yma yn eu hugeiniau a'u tridegau ac wynebant problemau oedolion, gan wneud y sioe yn fwy addas ar gyfer oedolion a fagwyd yn gwylio "Sesame Street". Roedd pedwar aelod o'r cast gwreiddiol (John Tartaglia, Stephanie D'Abruzzo, Jennifer Barnhart a Rick Lyon) wedi gweithio ar "Sesame Street" yn flaenorol.
Mae'r cymeriadau'n rhegi, ac yn canu caneuon gyda themâu sy'n addas ar gyfer oedolion. Un o themâu canolog y sioe yw dyhead y prif gymeriadau i ddod o hyd i "bwrpas" i'w fywyd. Ers i drac sain y sioe gerdd gael ei rhyddhau, mae'r gân "The Internet Is for Porn" wedi dod yn boblogaidd ar wefannau fel YouTube a gellir ei lawrlwytho'n rhad ac am ddim o'r wefan swyddogol. Yn ôl gwefan swyddogol y cynhyrchiad, mae'r sioe yn addas ar gyfer oedolion ac arddegwyr aeddfed.
Rhestr o'r caneuon
golygu
|
|
‡ Nid yw ar recordiad gwreiddiol y cast.
Dolenni Allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-05-28 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan y cynhyrchiad yn Llundain Archifwyd 2020-09-05 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan y cynhyrchiad yn İstanbul Archifwyd 2012-02-22 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan swyddogol Robert Lopez a Jeff Marx Archifwyd 2009-04-13 yn y Peiriant Wayback
- Puppet Wikia: Avenue Q
- Avenue Q yn BroadwayWorld.com
- Geiriau'n caneuon