Madog ap Maredudd
Madog ap Maredudd (bu farw 1160) oedd y brenin olaf i deyrnasu dros y cyfan o Deyrnas Powys. Roedd yn frenin cadarn a lwyddodd i reoli ac amddiffyn Powys am wyth mlynedd ar hugain.
Madog ap Maredudd | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1160 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Teyrnas Powys |
Tad | Maredudd ap Bleddyn |
Mam | Hunydd ferch Eunydd ap Gwerngwy |
Priod | Siwsana ferch Gruffudd |
Plant | Owain Fychan ap Madog, Gruffudd Maelor I, Owain Brogyntyn, Llywelyn ap Madog, Efa ferch Madog, Marared ferch Madog, Gwenllian ferch Madog ap Maredudd ap Bleddyn, Owain Fychan ap Madog ap Maredudd ap Bleddyn, Cynwrig Efell ap Madog ap Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn, Einion Efell ap Madog ap Maredudd, Efa ferch Madog ap Maredudd ap Bleddyn |
Bywgraffiad
golyguRoedd Madog yn fab i Faredudd ap Bleddyn ac yn wyr i Fleddyn ap Cynfyn. Roedd yn frawd i Gruffudd ap Maredudd (m. 1128) a Iorwerth Goch. Dilynodd ei dad ar orsedd Powys yn 1132. Yr adeg yma roedd brenin Gwynedd, Owain Gwynedd, yn pwyso ar ororau Powys, er bod Madog yn briod a Susanna ferch Gruffudd ap Cynan, chwaer Owain. Gwnaeth Madog gynghrair â Ranulf, Iarll Caer, ond llwyddodd Owain i'w gorchfygu a chymeryd tiroedd Iâl oddi wrth Madog.
Yn 1157 pan ymosododd y brenin Harri II o Loegr ar Wynedd cefnogwyd ef gan Madog,a llwyddodd i adennill rhai o'i diroedd.
Bu Madog farw yn 1160, a chladdwyd ef ym Meifod, yn eglwys Sant Tysilio. Rhannwyd ei diroedd rhwng nifer o'i feibion a neiaint. Nid lwyddodd neb i uno'r deyrnas eto a ymrannodd yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn.
Plant
golygu- Llywelyn ap Madog (m. 1160)
- Gruffudd Maelor (m. 1191)
- Owain Fychan ap Madog (m. 1187)
- Efa ferch Madog
- Owain Brogyntyn
- Elise
Noddwr y beirdd
golyguY bardd a gysylltir yn arbennig â Madog ap Maredudd a'i deulu yw Cynddelw Brydydd Mawr (fl. tua 1155 - 1195). Canodd ddwy gerdd i Fadog ei hun, dwy i'w fab Llywelyn a thair i Owain Fychan. Yn ogystal â'r cerddi hyn canodd Cynddelw i lys Madog, ei oesgordd a sawl perthynas iddo. Mae'r gerdd i Efa, ar ffurf arbennig o ganu serch a elwir yn rhieingerdd, yn arbennig o bwysig fel rhagflaenydd i'r canu serch llawn dychymyg a welir yng ngwaith y cywyddwyr. Ymddengys fod Cynddelw wedi treulio cyfnod hir yn llys y brenin ac yn dal tir yn y cyffiniau. Canodd Gwalchmai ap Meilyr ddwy gerdd i Fadog yn ogystal.
Mae'r chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy yn dechrau yn llys Madog ap Maredudd. Mae'n bosibl ei bod wedi'i llunio o fewn cenhedlaeth neu ddwy o farwolaeth Madog gan frodor o Bowys.
Llyfryddiaeth
golygu- J.E. Lloyd, Hanes Cymru (1911)
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)