Gwalchmai ap Meilyr
bardd o Fôn, un o'r cynharaf o'r Gogynfeirdd
Bardd Cymraeg y cysylltir ef a'i deulu â Threwalchmai ym Môn oedd Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130 - 1180). Mae ymhlith y cynharaf o'r Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion).[1]
Gwalchmai ap Meilyr | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 12 g Teyrnas Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1130 |
Plant | Meilyr ap Gwalchmai |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu)
Bywgraffiad
golyguRoedd yn fardd llys i Owain Gwynedd (Owain ap Gruffudd) ac i'w frodyr a chanai hefyd i Ddafydd ab Owain Gwynedd ac i Rodri ab Owain Gwynedd, dau o feibion Owain. Roedd Gwalchmai yn fab i Feilyr Brydydd ac yn dad i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai a Einion ap Gwalchmai a hefyd, efallai, i'r bardd Elidir Sais.[1]
Cerddi
golyguEi gerdd bwysicaf efallai yw Gorhoffedd Gwalchmai, un o gerddi Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Testun
golygu- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994).
Erthygl
golygu- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
Cyfeiriadau
golygu