Maethlu
Sant Cymreig bl. 6ed ganrif
Sant cynnar o Gymru oedd Maethlu (bl. 6g). Mae'n nawddsant plwyf Llanfaethlu ym Môn. Cyfeirir ato hefyd fel "Maethlu Gyffeswr". Ei wylmabsant yw 26 Rhagfyr.
Maethlu | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 26 Rhagfyr |
Tad | Caradog Freichfras |
Mam | Tegau Eurfron |
Bywgraffiad
golygu- Achau
Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl y testun achyddol Bonedd y Saint, roedd yn un o feibion Caradog Freichfras, un o arwyr Cylch Arthur, a'i wraig Tegau Eurfron. Roedd ei frodyr yn cynnwys Cadfarch, Tangwn a Chawrdaf; dywedir i Gawrdaf sefydlu teyrnas yn ardal Rhwng Gwy a Hafren yn y 6g.[1]
- Eglwysi
Sefydlodd Maethlu eglwys Llanfaethlu ar Ynys Môn; mae'n nawddsant yr eglwys honno. Dywedir hefyd iddo sefydlu eglwys Llandyfalle ym Mrycheiniog.[2]