Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar gyrion Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.
Y Maes
golyguLleolwyd y maes ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam.53°02′23″N 3°01′05″W / 53.039827°N 3.0179368°W Roedd y maes carafanau yn agos at y prif faes. Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B.
Prif gystadlaethau
golyguCystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Clawdd Terfyn | "Penrhynnwr" | Rhys Iorwerth |
Y Goron | Gwythiennau | "O'r Tir Du" | Geraint Lloyd Owen |
Y Fedal Ryddiaith | Neb Ond Ni | "Sitting Bull" | Manon Rhys |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Tair Rheol Anhrefn | "Blod" | Daniel Davies |
Tlws y Cerddor | Meirion Wynn Jones |
Y Coroni
golyguEnillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon; roedd 36 wedi cystadlu a'r dasg oedd llunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun "Gwythiennau". Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni "Delysg" ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas o blaid "Geraint", tri a oedd yn haeddu'r wobr, "O'r Tir Du", "Promethews" a "Fena Cafa".
Y Cadeirio
golyguEnillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair. Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.
Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.
Y Fedal Ryddiaith
golyguEnillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.
Tlws y Cerddor
golyguMeirion Wynn Jones enillodd y tlws.[1]
Gwobr Goffa Daniel Owen
golyguDaniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anhrefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.
Cyngherddau
golyguY Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur, Ysgol Glanaethwy ac Al Lewis Band
Maes B
golyguCampws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[2]
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Wrecsam
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ "Gwefan Swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 2011-07-27.
Dolen allanol
golygu- Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Archifwyd 2012-07-16 yn y Peiriant Wayback