Marichyasana

asana eistedd, mewn ioga

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Marichyasana (Sansgrit: मरीच्यासना; IAST: Maricyāsana, asana'r doethor Marichi). Caiff ei defnyddio fel asana tro ac eistedd mewn ioga modern fel ymarfer corff.

Marichyasana
Marichyasana I
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Daw enw'r asana yma o Sansgrit मरीचि Marichi, enw doethor ym mytholeg Hindŵaidd, a आसन, āsana, sy'n golygu osgo neu safle'r corff.[1]

Ni cheir yr asama yma mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn Ioga Makaranda Krishnamacharya ym 1934 ac yn nysgeidiaeth ei ddisgyblion, BKS Iyengar a Pattabhi Jois.[2][3]

 
Marichyasana III

Amrywiadau golygu

Yn Marichyasana II, mae'r goes ar y llawr yn cael ei blygu fel ar gyfer padmasana (y Lotws), tra bod y goes arall wedi'i phlygu fel yn Marichyaana I; mae'r corff yn troi tuag at y goes ar y llawr, ac mae'r breichiau wedi'u clymu y tu ôl i'r cefn ac o amgylch y pen-glin wedi'i godi. Yna gellir pwyso'r corff ymlaen nes bod yr ên yn cyffwrdd â'r pen-glin sy'n gorffwys ar y llawr.[4]

Yn Marichyaana III, mae'r goes ar y ddaear yn cael ei hymestyn yn syth. Mae'r corff yn cael ei droelli tuag at yr ochr gyda'r goes wedi'i phlygu, ac eto mae'r breichiau wedi'u clymu y tu ôl i'r cefn ac o amgylch y pen-glin sydd wedi'i godi.[5][6]

Mae Marichyaana IV yn cyfuno symudiadau Marichyaana II a III. Mae'r goes ar y llawr wedi'i phlygu fel ar gyfer padmasana ac mae'r corff yn troi tuag at y pen-glin sydd wedi'i godi.[7]

Budd golygu

Dywedir bod Marichyasana'n ddefnyddiol i leddfu poenau yn y cefn.[8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Iyengar 1979, tt. 159-161.
  2. Iyengar 1979.
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100, 102. ISBN 81-7017-389-2.
  4. Iyengar 1979, tt. 161-163.
  5. Mehta 1990.
  6. Iyengar 1979, tt. 254-257.
  7. Iyengar 1979, tt. 257-259.
  8. Mehta 1990, t. 70.

Llyfryddiaeth golygu