Barddoniaeth Saesneg Canol

Barddoniaeth a ysgrifennir yn Saesneg Canol, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o'r 12g i'r 15g, yw barddoniaeth Saesneg Canol. Dim ond ychydig o farddoniaeth Saesneg Canol sy'n goroesi, o ganlyniad i oruchafiaeth y Normaniaid a statws Hen Ffrangeg, neu Eingl-Normaneg, fel iaith o fri.

Datblygodd yr iaith Saesneg Canol o'r 12g, a cheir telynegion byrion o'r cyfnod hyn hyd at y 14g, nifer ohonynt yn ddi-enw. Cenir am natur, y gwanwyn, serch, a duwioldeb y Cristion. Roedd baledi byrion a phenillion straeon yn boblogaidd o'r 13g hyd at yr 17g.

Un o'r rhai cyntaf i farddoni yn Saesneg Canol oedd Layamon, awdur Brut Layamon yn y 12g. Dyma'r gwaith cyntaf yn Saesneg i gynnwys chwedl y Brenin Arthur.

Blodeuai'r rhamant Saesneg yn y 14g, a nodweddir gan straeon y marchog crwydr, canu serch llys, a themâu sifalri. Un o'r rhamantau enwocaf o'r cyfnod, sydd yn tynnu ar chwedlau Brythonaidd Cylch Arthur, yw Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Galargan yn debyg i farwnad y Cymry yw'r elegi, a ysgrifennir er cof am un fu farw a hefyd i fyfyru ar destun marwolaeth neu einioes. Enghraifft o'r fath gerdd yw Perle (tua 1360) a ysgrifennwyd o bosib i goffáu merch y bardd, o bosib yr un bardd a gyfansoddodd Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Yn yr oes hon hefyd fe flodeuai'r aralleg, ffurf lenyddol ddamhegol sydd yn trosi rhinweddau a chysyniadau tebyg yn gymeriadau a gwrthrychau eraill yn y stori. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw Piers Plowman (tua 1362), a briodolir i William Langland.

Portread o Geoffrey Chaucer.

Bardd rhagoraf y cyfnod, ac un o lenorion pwysicaf a gwychaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, yw Geoffrey Chaucer. Yn ei gampwaith The Canterbury Tales, fe geir cylch o straeon difyr a adroddir gan griw o bererinion ar eu taith i Gaergaint. Darluniad dwfn a lliwgar ydyw o fywyd, iaith, digrifwch, a pherthnasau cymdeithasol yn Lloegr yr Oesoedd Canol. Ymhlith gweithiau eraill Chaucer mae'r stori serch Troilus and Criseyde a'r ddychangerdd ddamhegol Parlement of Foules.

Barddoniaeth ddidactig a chrefyddol golygu

 
Tudalen o'r Ormulum sy'n dangos golygiadau'r bardd.

Yn y 12g a'r 13g bu llenyddiaeth grefyddol yn boblogaidd yn Lloegr, gan gynnwys straeon Beiblaidd a bucheddau'r saint ar ffurf cerddi didactig hirion. Ysgrifennwyd hefyd barddoniaeth Saesneg i ddarparu addysg foesol i'r rhai nad oedd yn medru'r Lladin a'r Ffrangeg. Yr enghraifft hynotaf o'r genre hon ydy'r Ormulum gan y canon Awstinaidd Orm, sy'n dyddio o ail hanner y 12g. Casgliad o homilïau yn esbonio'r Efengylau ydyw a ysgrifennir mewn 19,000 o linellau a drefnir yn gwpledi caeth diodl. Mae'r gwaith yn werthfawr i ieithegwyr gan ei fod yn dangos ymdrechion y bardd i seinegoli orgraff y Saesneg, ac felly'n dweud wrthym sut yr oedd Saeson yr oes Normanaidd yn ynganu eu mamiaith. Ymhlith y gweithiau eraill o'r cyfnod sy'n addasu ac yn aralleirio straeon y Beibl mae Genesis and Exodus, Jacob and Joseph, a Cursor Mundi (tua 1300) sy'n cyflwyno cronicl cyfanfydol ar sail hanesion y Beibl a ffynonellau Cristnogol eraill. Gwaith poblogaidd oedd y South English Legendary, hanes y seintiau gan gynnwys Iesu Grist a'r "gwrth-seintiau" Jwdas a Pontiws Peilat, sy'n goroesi mewn sawl llawysgrif. Gydag amser, ychwanegwyd at y Legendary gan olygyddion diweddarach, ac aildrefnwyd y bucheddau yn nhrefn y calendr eglwysig.

 
Un o baneli'r Ffenestr Prick of Conscience yn Eglwys yr Holl Saint sy'n darlunio'r ail o'r Pymtheg Arwydd cyn Dydd y Farn: "þe seconde day þe see sall be so lawe as all men sall it see" (cymharer "¶The secounde day hit shal be low / That unnethe men shul hitte knowe" yn y brif lawysgrif o'r gerdd).

Parhaodd y traddodiad didactig yn y 14g mewn gweithiau megis Handlyng Synne (1303), cerdd ddefosiynol gan Robert Mannyng, mynach o Swydd Lincoln. Addasiad ydyw o'r gwaith Eingl-Normaneg Manuel de Pechiez gan Wilham de Waddington, ac yn cynnwys trafodaethau o foesoldeb Cristnogol megis y Deg Gorchymyn, y saith pechod marwol, y saith sacrament, ac elfennau'r gyffes ynghyd â damhegion yn esiamplau moesol, nifer ohonynt heb eu tynnu o'r Manuel. Yn y Prick of Conscience, gwaith dienw a briodolir yn draddodiadol i'r cyfriniwr Richard Rolle, ceir crynodeb ar gân o ddiwinyddiaeth, yn bennaf edifeirwch. Dyma'r gerdd Saesneg Canol a gopïwyd fynychaf, gan iddi ymddangos mewn 130 o lawysgrifau'r cyfnod. Ymddengys llinellau o'r Prick of Conscience hyd yn oed mewn ffenestr wydr lliw yn Eglwys yr Holl Saint, Stryd North, yn Efrog, sydd yn debyg yn dyddio o'r 1410au.

Y rhamant golygu

Yn y 13g ymddangosodd esiamplau Saesneg cynharaf y rhamant fydryddol, genre a fyddai'n boblogaidd am weddill yr Oesoedd Canol. Ceir chwedlau King Horn a Floris and Blauncheflour mewn llawysgrif o ganol y 13g. Chwedl o'r corff llenyddol a elwir Mater Lloegr ydy King Horn sydd hefyd yn cynnwys thema serch llys. Hanes serch y Dywysoges Blauncheflour, a gaiff ei chipio gan y Saraseniaid, a'r Tywysog Floris ydy'r rhamant arall. Yn niwedd y 13g cyfansoddwyd The Lay of Havelok the Dane, stori antur arall ym Mater Lloegr sy'n ymwneud â serch llys.

Yn y 13g hefyd datblygodd yr anifeilgerdd ddigrif yn llên Lloegr. Yr enghraifft gyntaf o'r genre hon ydy'r gerdd Saesneg The Fox and the Wolf, yn seiliedig ar y testun Hen Ffrangeg Roman de Renart. Yn yr un lawysgrif â'r gerdd honno mae'r fabliau hynaf yn yr iaith Saesneg, Dame Sirith.

Yn y 14g blodeuai rhamantau o sawl cylch llenyddol: Mater Prydain, sef chwedlau'r Brenin Arthur megis Of Arthour and of Merlin ac Ywain and Gawain; Mater Caerdroea, sy'n ymwneud â mytholeg yr Henfyd, er enghraifft The Siege of Troy a King Alisaunder; a'r Cerddi Llydewig sy'n sôn am hud arallfydol, yn eu plith Lai le Freine a Sir Orfeo, ar fodel storïwyr Ffrangeg Llydaw.

Cyfeiriadau golygu