Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield

parc yng Nghymru

Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr yw Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield. Saif y warchodfa tua 15 km i’r de-ddwyrain o dref Wrecsam. Mae'n pontio'r ffin rhwng bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, a Swydd Amwythig, Lloegr; mae Fenn's Moss gerllaw Bronington ym mwrsdeisdref sirol Wrecsam; mae Whixall Moss yn Swydd Amwythig. Mae Camlas Llangollen yn mynd trwy’r warchodfa.

Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield
Mathparc, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1953 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.9216°N 2.7645°W Edit this on Wikidata
Map

Cyforgors yw'r safle, a chydag arwynebedd o 575 hectar hi yw'r drydedd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Fenn’s, Whixall, Bettisfield, Wem & Cadney Mosses, sy'n 948 hectar i gyd.

Gwelir Gylfinir, Boda tinwyn, Troellwr mawr, Tylluan gorniog, Cwtiad aur, Hebog tramor, Cudyll bach, Pibydd torchog, Cornchwiglen a Bras melyn.[1]

Mae 18 math o fwsog, Chwys yr haul, Llafn y bladur, Rhosmari gwyllt, Chwysigenddail bach, Corsfrwynen wen, Dicranum bergeri, Dicranum leioneuron a Sphagnum pulchrum. Mae hefyd Mwyaren y Berwyn, Creiglusen a Llugaeronen, Pryf gwellt, 29 math o fursen a gweision y neidr, 670 math o wyfyn a 32 math o loynnod byw. Mae nadroedd, madfallod a 166 math o adar.[2]

Mae pili-palod yn cynnwys gwibiwr llwyd a gloynnod brwmstan, a gwelir llygoden y dŵr, ystlumod, ysgyfarnogod, belaod, moch daear, llyffantod, brogaod, madfallod, nadroedd defaid, gwiberod a nadroedd y gwair.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu


Oriel golygu