Meir Kahane
Gwleidydd a rabi Americanaidd-Israelaidd oedd Meir Kahane (1 Awst 1932 – 5 Tachwedd 1990).
Meir Kahane | |
---|---|
Meir Kahane ym 1984. | |
Ganwyd | 1 Awst 1932 Brooklyn |
Bu farw | 5 Tachwedd 1990 o anaf balistig Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Israel |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, rabi, newyddiadurwr |
Swydd | Aelod o'r Knesset, rosh yeshiva |
Plaid Wleidyddol | Kach |
Plant | Binyamin Ze'ev Kahane, Baruch Kahane |
Ganed Martin David Kahane ym mwrdeistref Brooklyn yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Derbyniodd radd baglor yn y celfyddydau o Goleg Brooklyn ym 1954 a gradd baglor yn y gyfraith o Ysgol Gyfraith Efrog Newydd ym 1956, ac ym 1957 enillodd radd meistr mewn materion rhyngwladol o Brifysgol Efrog Newydd. Ym 1957 hefyd cafodd ei ordeinio'n rabi Uniongred wedi iddo astudio yn y Mirrer Yeshiva yn Brooklyn, a mabwysiadodd yr enw Meir.
Ym 1968 sefydlodd y Jewish Defense League, gyda'r nod o amddiffyn Americanwyr Iddewig yn erbyn gwrth-Semitiaeth. Ymfudodd Kahane i Israel ym 1971 a sefydlodd y blaid adain-dde Kach, a chanddi ideoleg yn seiliedig ar ei syniadaeth (Kahaniaeth): Seioniaeth grefyddol a thra-chenedlaetholdeb Israelaidd. Ymgyrchodd dros osod y gyfraith Iddewig, halacha, yn sail i'r wladwriaeth, a thros fwrw'r Arabiaid allan o Israel a phob tiriogaeth dan feddiannaeth lluoedd Israel. Etholwyd Kahane i'r Knesset ym 1984. Pasiwyd deddf dros dro i alluogi'r pwyllgor etholiadol i wahardd pleidiau "hiliol" a "gwrth-ddemocrataidd", a chafodd Kach ei atal rhag ymgeisio am seddi yn etholiadau'r Knesset ym 1989.
Ar 5 Tachwedd 1990, wedi i Kahane roi araith mewn gwesty ym Manhattan, fe'i saethwyd yn farw gan El Sayyid Nosair, eithafwr Islamaidd a aned yn yr Aifft, a saethodd ac anafodd Swyddog Heddlu'r Post yn y stryd cyn iddo gael ei arestio.[1] Er yr oedd nifer o dystion i'r llofruddiaeth, cafwyd Nosair yn ddieuog; un o'r rhesymau oedd diffyg awtopsi, ar gais teulu Kahane. Fodd bynnag, fe'i cafwyd yn euog o saethu'r plismon a throseddau eraill, a'i dedfrydwyd i garchar am 22 mlynedd.[2] Yn ddiweddarach, cyfaddedfodd Nosair ei fod yn gyfrifol am ladd Kahane.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Verena Dobnik, "Israeli Militant Meir Kahane Shot to Death in New York Hotel", Associated Press (6 Tachwedd 1990). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Chwefror 2023.
- ↑ (Saesneg) Ronald Sullivan, "Judge Gives Maximum Term in Kahane Case", The New York Times (30 Ionawr 1992). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Gil Stern Stern Shefler, "'Sharon was Kahane killer's target'", The Jerusalem Post (15 Awst 2010). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Chwefror 2017.