Enw ar grŵp ethnig, neu sawl grŵp ethnig, amlhiliol yn rhanbarth Appalachia yn ne-ddwyrain Unol Daleithiau America yw Melungeon sydd yn disgyn o Ewropeaid, Americanwyr Brodorol, ac Affricanwyr. Yn hanesyddol, cysylltir yr enw â chymunedau yn ardal Cumberland Gap yng nghanolbarth Mynyddoedd Appalachia, yn nwyrain Tennessee, de-orllewin Virginia, a dwyrain Kentucky.[1][2]

Melungeon
Ffotograff o Arch Goins a'i deulu, Melungeons o Graysville, Tennessee, yn y 1920au.
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Maent yn byw yn ardaloedd anghysbellaf a thlotaf Appalachia, ar drumiau trymion anhygyrch y mynyddoedd. Nodweddir y Melungeon gan bryd a golwg sydd yn wahanol iawn i'w cymdogion yn Appalachia, sydd yn disgyn yn bennaf o Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, Cymry, a Sgot-Wyddelod. Yn gyffredinol, mae ganddynt lygaid glas, gwallt golau neu frown, a chyrff tenau, yn debyg i genhedloedd Gogledd Ewrop, ond gyda chroen tywyll. Mae rhai ohonynt yn edrych yn debyg iawn i genhedloedd y Môr Canoldir: gwallt tywyll a syth, a chroen melynfrown. Mae gan nifer ohonynt esgyrn uchel i'w bochau, yn debyg i'r Americanwyr Brodorol. Mae enwau teuluoedd y Melungeon, er enghraifft Brogan, Collins, a Mullins, fel arfer yn tarddu o wledydd Prydain ac Iwerddon. Mae ambell nodwedd genetig yn gyffredin ymhlith y Melungeon, gan gynnwys chwydd ar gefn y pen, ac amlfyseddogrwydd.[3]

Mae union darddiad y bobloedd Melungeon yn ansicr. Y gred gyffredinol ymhlith ysgolheigion yw mae grwpiau teir-hiliol ydynt, yn disgyn o Ewropeaid gwynion, Affricanwyr duon, ac "Indiaid Cochion" (yn benodol, llwyth y Tsierocî). Ceir sawl traddodiad lleol a choel liwgar sydd yn honni tarddiad penodol, annisgwyliedig: Tyrciaid o'r Ymerodraeth Otomanaidd, fforwyr Portiwgalaidd, neu hyd yn oed y setlwyr coll o Wladfa Roanoke. Yn ystod oes Jim Crow yn y taleithiau deheuol, cawsant eu hystyried fel arfer yn dduon, ac felly yn dioddef arwahanu.

Cyfeiriadau golygu

  1. "William Harlan Gilbert, Jr., "Surviving Indian Groups of the Eastern United States," Report to the Board of Regents of The Smithsonian Institution, 1948" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2019. Cyrchwyd 13 Chwefror 2020.
  2. Ball, Donald B.; Kessler, John S. (20 Mai 2000). North from the Mountains: The Carmel Melungeons of Ohio. Paper presented at Melungeon Heritage Association Third Union (yn Saesneg). Prifysgol Virginia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 19, 2007. Cyrchwyd 14 Mawrth 2008.
  3. Estes, Roberta J.; Goins, Jack H.; Ferguson, Penny; Crain, Janet Lewis (Ebrill 2012). "Melungeons, A Multi-Ethnic Population" (yn en). Journal of Genetic Genealogy. http://www.jogg.info/72/files/Estes.htm. Adalwyd 25 Mai 2012.

Dolenni allanol golygu