Tref fechan (comuna) yn nhalaith Santa Fe, yr Ariannin yw Moisés Ville. Sefydlwyd yn 1889 gan Iddewon o Ddwyrain Ewrop a Rwsia a oedd yn dianc rhag y pogromau ac erledigaeth. Yr enw gwreiddiol a fwriadwyd ei roi ar y dref oedd Kiryat Moshe ("Tref Moses" yn Hebraeg) i anrhydeddu Baron Maurice Moshe Hirsch, ond fe gyfieithodd yr asiant tir a gofrestodd yr anheddiad yr enw gan ei gyfieithu i fod yn debyg i'r Ffrangeg Moïsesville, a gafodd ei droi'n Sbaeneg yn ddiweddarach i gyrraedd y ffurf presennol, Moisés Ville. Lleolir y dref tua 177 cilometr o'r brifddinas taleithol, yn Departamento San Cristóbal a 616 cilometr o Buenos Aires. Roedd 2,572 o drigolion yn byw yno yn ystod cyfrifiad 2001.

Moisés Ville
Mathbwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,425 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1889 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolhistory of the Jews in Argentina Edit this on Wikidata
SirSan Cristóbal Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Arwynebedd291 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr83 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.72°S 61.48°W Edit this on Wikidata
Cod postS2313 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Moisés Ville yn fwy nag ond anheddiad i Iddewon yr Ariannin, mae'n le mytholegol. Sefydlwyd gan grŵp o wladwyr Iddeweg Rwsiaidd a gyrrhaeddodd yno yn Awst 1889 ar yr SS Wesser o Kamenetz-Podolsk, Wcrain, cysidrir ef i fod yn wladfa amaethyddol Iddeweg cyntaf yn Ne America, gan guro grŵp llai o wlawyr o Bessarabia a sefydlodd cymuned Monigotes ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Mae'r 130 teulu (815 o bobl) "Colonos", yn cyfateb i deithwyr y Mayflower i Iddewon yr Ariannin, a gall unrhyw un sy'n medru profi disgyniaeth o'r Colonos frolio eu bod yn aelod o Aristrogaeth yr Arloeswyr Amaethyddol.

Ffynonellau

golygu
  • Mae'r erthygl yn cynnwys testun a'i gyfieithwyd yn syth o'r Gwyddoniadur Iddeweg 1901–1906, cyhoeddiad sydd eisoes yn y parth cyhoeddus.
  • Braunstein, Gabriel. The Jewish immigration to Entre Rios, Argentina. JGSR News, Jewish Genealogical Society of Rochester.
  • Zablotsky, Edgardo (May 2005). The Project of The Baron de Hirsch: Success or failure?.
  • Armony, Paul (July 1997). Moisesville: The Jewish Pioneer Colony. AGJA’s magazine.
  • Sofer, Eugene (October 1984). From Pale to Pampa: A Social History of the Jews of Buenos Aires. Modern Judaism.
  • Weisbrot, Robert (1979). The Jews of Argentina from the Inquisition to Peron.
  • Avni, Haim. Argentina & the Jews: A History of Jewish Immigration (Cyfieithiad Saesneg gan Gila Brand).

Dolenni allanol

golygu